Bellach yn ei phumed flwyddyn, bydd Wythnos Gwin Cymru yn digwydd o 30 Mai i 8 Mehefin. Bydd y digwyddiad wythnos o hyd hwn yn tynnu sylw at ymroddiad ac angerdd gwinllannoedd Cymru, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous o deithiau gwinllannoedd, sesiynau blasu, sesiynau cwrdd â'r cynhyrchwyr, cynigion arbennig a dathliadau i selogion gwin a'r cyhoedd.
Trefnir Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru, rhan o fenter clystyrau Llywodraeth Cymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr diodydd a gwinllannoedd i hyrwyddo'r diwydiant a'i gynhyrchion o'r radd flaenaf.
Peidiwch â cholli allan ar ddathlu Wythnos Gwin Cymru 2025. P'un a ydych chi'n arbenigwr gwin neu'n chwilfrydig am winoedd Cymru, mae rhywbeth at ddant pawb. Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gwin Cymru 2025 ac amserlen y digwyddiadau, ewch i https://welshwineweek.co.uk/