Bydd grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod newydd yn cael y cyfle i roi eu sgiliau masnachu ar brawf pan fyddan nhw’n arddangos eu cynhyrchion yn Ffair yr Hydref Canolbarth Cymru. Bydd y digwyddiad (5 a 6 Hydref) ar Faes y Sioe yn Llanelwedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys crefftau, cerddoriaeth, hen gerbydau, arddangosiadau coginio, a stondinau bwyd a diod. Bydd y Neuadd Fwyd enwog ar Faes y Sioe yn llawn stondinau bwyd...
Lansio cronfa entrepreneuriaid bwyd newydd ar ben-blwydd y campws arloesi
Mae cronfa newydd i gefnogi busnesau bwyd newydd wedi’i lansio gan gampws arloesi a menter y biowyddorau, ArloesiAber, wrth iddo ddathlu ei bedwerydd pen-blwydd. Bydd Rhaglen Cyflymu Etifeddiaeth Entrepreneuriaeth (LEAP), a fydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Etifeddiaeth Dick Lawes, yn cefnogi mentrau sy'n ceisio helpu darpar entrepreneuriaid. Roedd Dick Lawes yn entrepreneur gweledigaethol a adawodd effaith barhaol ar y diwydiant llaeth, gan sefydlu Volac a L.E. Pritchitt & Co, sydd bellach yn rhan...
Sioe deithiol yn rhoi hwb i gynaliadwyedd bwyd a diod
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gydweithio â busnesau i gyflawni ei nod o greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cynaliadwy yn y byd. I hybu’r nod hwn, mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gyfarfodydd brecwast a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd y cyfarfodydd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd, ac yn cynnig cyfle unigryw...
Black Mountains Smokery yn ennill anrhydedd fawr yng Ngwobrau Great Taste
Mae Black Mountains Smokery yn dathlu ar ôl ennill un o wobrau mwyaf mawreddog y diwydiant bwyd a diod. Yn seremoni wobrwyo Gwobrau Great Taste, sy’n cael eu hadnabod fel Oscars y byd bwyd, gwelwyd Brest Hwyaden Fwg y cwmni o Grucywel, yn cipio gwobr y Golden Fork o Gymru. Mewn buddugoliaeth arall i Gymru, enillodd Absinthe Distyllfa Dà Mhìle o Geredigion hefyd Wobr Treftadaeth Nigel Barden am dynnu sylw at ddulliau cynhyrchu traddodiadol a...
TREIAL TAGIO DRAENOGIAID Y MÔR YN HELPU I GEFNOGI CYMUNEDAU PYSGOTA CYMRU
Mae menter adnabod a lansiwyd i godi proffil draenogiaid y môr Cymru yn rhoi hwb ariannol i bysgotwyr a chyfanwerthwyr pysgod Cymru. Wedi’u gwobrwyo am eu hansawdd a’u blas, draenogiaid y môr yw un o'r prif rywogaethau pysgod esgyll a gaiff eu dal o amgylch arfordir Cymru ac, yn 2022, daethpwyd â thua 53 tunnell o ddraenogiaid y môr i’r lan yng Nghymru. Lansiwyd y treial yn 2023 ac mae cynllun peilot tagio draenogiaid y...
Ysgrifennydd y Cabinet wrth ei fodd â llwyddiannau Gwobrau Great Taste
Mae Gwobrau Taste Awards 2024 unwaith eto wedi amlygu ansawdd eithriadol bwyd a diod o Gymru, gyda chynhyrchwyr niferus yn cael eu cydnabod am eu cynhyrchion rhagorol. Mewn arddangosfa ryfeddol o allu coginio, mae cynhyrchwyr Cymru wedi cael eu hanrhydeddu â 149 o wobrau, gyda 97 o gynhyrchion yn ennill 1 seren, 45 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y gymeradwyaeth orau gyda 3 seren. Daw’r gwobrau yn dilyn ystadegau diweddar sy’n dangos...
Bragwyr Cymreig wedi'u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â'u bragdai i'r lefel nesaf
Mae dros 20 o fragwyr o bob rhan o Gymru wedi manteisio ar y datblygiadau arloesol a’r arferion gorau diweddaraf gan ddarparwr gwasanaethau bragu a dadansoddi blaenllaw’r DU, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu eu busnesau. Mae Datblygu Sgiliau Bragu yn gwrs a gynigiwyd yn ddiweddar i fragwyr gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales a Chlwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac a ddarperir...
Prosiect HELIX, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cyrraedd carreg filltir o £491m i gefnogi’r diwydiant bwyd a diod
Cyflwynir Prosiect HELIX gan y tair canolfan fwyd ledled Cymru sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu mewn ymateb i anghenion y sector, gan gynnwys cymorth gyda gweithrediadau prosesau, datblygu cynnyrch newydd ac ardystio diogelwch bwyd. Ers mis Gorffennaf 2023, mae Prosiect HELIX wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac mae wedi sicrhau’r manteision canlynol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru: £119 miliwn o...
CYNHYRCHWYR O GYMRU YN TYFU GYDA CYWAIN YN SIOE FRENHINOL CYMRU
Bydd yna amrywiaeth gyffrous o fusnesau bwyd a diod Cymreig newydd ac sy’n tyfu yn y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ( 22–25 Gorffennaf). Bydd stondin Cywain ( rhif 63) yn tynnu sylw at 14 o gynhyrchwyr addawol yn ystod y sioe, gan roi llwyfan iddynt brofi eu sgiliau masnachu ac arddangos eu cynnyrch i gynulleidfa o filoedd. Mae prosiect Cywain yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu...
Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cydweithio’n ddiweddar ag AMRC Cymru i roi cyfle unigryw i gael profiad ymarferol o weithgynhyrchu uwch, yn ystod wythnos o brofiad gwaith i bedwar darpar beiriannydd rhwng 16 a 18 oed. Canfu ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan y rhaglen fod diffyg sgiliau yn bodoli ym meysydd technegol a pheirianneg, gyda’r galw am rolau o’r fath yn...