Mae ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd am yrfaoedd o fewn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, a herio canfyddiadau o yrfaoedd yn y maes wedi’i lansio.
Mae’r rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog. Mae’n cefnogi busnesau bwyd a diod gyda ffocws ar ddiwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru i sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr ar gyfer eu busnes.
Gan weithio ar draws pob sector o fewn diwydiant bwyd a diod Cymru, mae’n annog gweithwyr i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau â’u cyfoedion tra hefyd yn cynyddu hyder a hyblygrwydd yn y gweithle er mwyn gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hefyd yn ceisio paratoi gweithwyr i addasu i newidiadau a chyfleoedd ym maes cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd gan gynnwys heriau technegol, busnes ac amgylcheddol.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae Hysbysfwrdd Swyddi ar-lein newydd yn fyw gyda nifer o swyddi gwag ar gael ar draws y sector.
Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
"Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth i fusnesau bwyd a diod gyda ffocws ar y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach.
Mae’r Hysbysfwrdd Swyddi’n llawn cyfleoedd i’r rhai sy’n chwilio am yrfa newydd neu wahanol yn y diwydiant, tra’n cynnig cyfoeth o gefnogaeth, cyngor ac arweiniad i helpu i lywio’r gwahanol gyfleoedd gyrfa a meysydd busnes a allai fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n dymuno archwilio ymhellach.”
Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ffynnu ac nid yn unig yn rhoi bwyd ar fwrdd y genedl, ond hefyd yn gosod Cymru yn gadarn ar y llwyfan byd-eang gyda’i chynnyrch gwych. Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu gwerth y sector i £8.5bn yn ogystal â chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, y ddau erbyn 2025.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS:
"Mae cymaint o swyddi a chyfleoedd amrywiol, cyffrous a gwerth chweil yn ein diwydiant bwyd a diod. Mae'n bwysig bod sgiliau pobl yn cyd-fynd â'r cyfleoedd hynny a bydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi'r personél sydd eu hangen ar y diwydiant i weld y sector yn tyfu ymhellach."
Gyda’r ymgais i greu un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd, mae mwy a mwy o bobl yn manteisio ar fwyd a diod o Gymru yn y DU a thu hwnt, gyda chynhyrchwyr a busnesau ledled Cymru yn ymateb yn gyflym i’r galw cynyddol.
Mae nifer o ffyrdd i ymuno â’r diwydiant uchelgeisiol a gwerth chweil hwn; o brentisiaethau a rhaglenni dysgu i rolau gweithredol a swyddi sy'n ymwneud â chwsmeriaid yn ogystal â chyfleoedd i arwain a rheoli.
Mae Blas ar Fwyd, busnes teuluol adnabyddus yng ngogledd Cymru yn llawn cyffro i gefnogi lansiad y wefan newydd fel rhan o ymgyrch recriwtio ehangach sydd â’r nod o ddenu unigolion angerddol i ymuno â’r sector ffyniannus. Osian Deiniol o Blas ar Fwyd sy’n rhannu ei frwdfrydedd,
"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cefnogi'r fenter hon a lansiad y wefan newydd. Mae'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn ffynnu, ac mae cyfleoedd di-ri i'r rhai sydd eisiau dechrau gyrfa newydd, trosglwyddo sgiliau, neu uwchsgilio a symud ymlaen.
Yn Blas ar Fwyd, rydyn ni’n credu yng ngrym angerdd a chymuned, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol lle gall unigolion dyfu a ffynnu. Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r diwydiant deinamig hwn i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael.”
Mae Hysbysfwrdd Swyddi Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ar gael yn: swyddibwyddiod.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ewch i https://rhaglenni.mentera.cymru/foodanddrinkskillswales/