Mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi cael effaith sylweddol yn ddiweddar yn FHA, Food and Beverage, Singapôr.
Roedd prif ddigwyddiad bwyd a lletygarwch Asia yn cynnwys arddangosfa o'r cynhyrchion gorau o Gymru, ynghyd â gweithgareddau ehangach gan Gymdeithas Goginio Cymru, a arweiniodd at ddiddordeb sylweddol gan brynwyr ledled y rhanbarth.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o arddangoswyr, gan gynnwys Dairy Partners a Morning Foods, gyda'r ddau’n chwifio'r faner dros gynhyrchion Cymru sydd ar gael yn y rhanbarth. Mae FHA, Food and Beverage wedi'i leoli'n strategol yn Singapôr fel porth i Asia, gan gynnig mynediad i farchnadoedd allweddol gan gynnwys de-ddwyrain Asia, Tsieina, India, Awstralia a thu hwnt.
Cefnogwyd y digwyddiad masnach gan Lywodraeth Cymru, gyda chwmnïau'n arddangos o dan faner Cymru/Wales. I Will Bennett, Cyd-gyfarwyddwr Dairy Partners, mae'r ymweliad wedi bod yn werth chweil gyda llawer o ddiddordeb gan ffigurau'r diwydiant ar draws y rhanbarth,
“Roedden ni wrth ein bodd i fod yn rhan o FHA Singapôr ac i ddangos ansawdd ac amrywiaeth cynhyrchion llaeth Cymru sydd ar gael. Mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda llawer o ddiddordeb o bob cwr o'r rhanbarth gan gynnwys Singapôr, y Philipinau, Fietnam, Gwlad Thai, Japan, De Corea ac Awstralia i enwi ond rhai. Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu a thyfu'r cysylltiadau hyn dros y misoedd nesaf.
Mae'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wrth fynychu digwyddiadau fel FHA Singapôr wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynyddu ein gwelededd ac agor marchnadoedd rhyngwladol newydd ar gyfer ein cynhyrchion.”
Roedd Cymdeithas Goginio Cymru yn bresennol yn y digwyddiad hefyd. Roedd hyn er mwyn helpu i hyrwyddo Cyngres Worldchefs, a gynhelir yng Nghymru yn 2026, ac roedd yn cynnwys arddangosiadau coginio gan ddefnyddio cynhyrchion Cymreig sydd ar gael yn y rhanbarth. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchion a ddarparwyd gan Gig Oen Organig Ystad Rhug, Mêl Hilltop, Jin Cygnet, Penderyn, Halen Môn, Village Bakery, Menyn Maple Moose, Dairy Partners a Morning Foods.
Dywedodd Arwyn Watkins OBE, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru,
“Mae’r cyfle i goginio ac arddangos cynhyrchion Cymru yn Singapore wedi bod yn wych. Rydyn ni wrth ein bodd yn defnyddio’r digwyddiad hwn fel platfform i hyrwyddo Cyngres ac Arddangosfa Worldchefs yng Nghymru y flwyddyn nesaf, y disgwylir iddi ddenu cogyddion ac ymwelwyr o dros 100 o wledydd.
Mae’r digwyddiad byd-eang hwn yn gamp sylweddol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl o bob cwr o’r byd i’r hyn sy’n siŵr o fod yn gyfle eithriadol i ddangos yr hyn y gall Cymru ei gynnig i’r byd.”
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr i helpu cwmnïau fynychu digwyddiadau masnach ac ehangu eu marchnadoedd allforio. Mae hyn yn cynnwys platfform i arddangos cynhyrchion a threfnu sgyrsiau a chyfarfodydd masnach yn ystod digwyddiadau, brand Cymru, cymorth ariannol, mewnwelediadau i'r farchnad, cymorth hyfforddiant neu sgiliau, a mynediad at seilwaith arloesol, pob un wedi'i gynllunio i feithrin arloesedd a thwf yn y diwydiant bwyd a diod.
Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig,
“Mae cyfranogiad cwmnïau Cymru yn y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i hyrwyddo cynhyrchion Cymru ar lwyfan byd-eang. Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd marchnad ASEAN i allforwyr bwyd a diod Cymru ac yn tynnu sylw at y potensial ar gyfer twf ac ehangu yn y rhanbarth deinamig hwn.”
Yn ddiweddarach eleni, bydd digwyddiad nesaf Blas Cymru / Taste Wales yn cael ei gynnal ar 22-23 Hydref yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, gyda FHA, Food and Beverage, Singapôr hefyd yn cynnig cyfle i gwrdd â ffigurau blaenllaw sydd â diddordeb mewn mynychu'r digwyddiad.
Roedd presenoldeb rhyngwladol cryf ymhlith y garfan o 276 o brynwyr yn y digwyddiad diwethaf yn 2023, lle cymerodd 122 o gynhyrchwyr Cymru ran. Ystyriwyd y digwyddiad yn llwyddiant o ganlyniad i'r cyfuniad unigryw o gyfarfodydd masnach a drefnwyd ymlaen llaw, cyfleoedd i rwydweithio, a'r cyfle i flasu bwyd a diod Cymreig hyfryd mewn cyd-destun proffesiynol iawn. Mae'r cysyniad hwn yn golygu y gall prynwyr wneud y mwyaf o'u hamser, ac mae cynhyrchwyr yn cael cyfleoedd gwarantedig i farchnata eu cynhyrchion o fewn amserlen gryno iawn.
Gan edrych ymlaen at y digwyddiad sydd i ddod, bydd mwy na 200 o gynhyrchion bwyd a diod newydd yn cael eu lansio, ymhlith arddangosfa ehangach o 3,000 o gynhyrchion fydd yn cynrychioli amrywiaeth eang y diwydiant.
Am ragor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes chi i gyrraedd marchnadoedd newydd trwy ddigwyddiadau masnach, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes