Arglwydd Niwbwrch, perchennog Ystad Rhug

 

Roedd rhagoriaeth entrepreneuraidd o dan y chwyddwydr yn ystod dathliad mawr o sector bwyd a diod ffyniannus y genedl yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025, a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar.

Enwyd yr Arglwydd Newborough, perchennog Ystâd Rhug, yn ‘Entrepreneur y Flwyddyn’, i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r diwydiant. Wedi’i noddi gan Fwyd a Diod Cymru, roedd y wobr yn dathlu unigolion sy’n arwain y ffordd yn sector bwyd a diod Cymru, a’r rhai sydd wedi dangos yr uchelgais i droi syniadau beiddgar yn fusnesau llwyddiannus, ac sy’n parhau i yrru arloesedd, twf a gwydnwch ar draws y diwydiant.

Yr Arglwydd Newborough yw’r grym y tu ôl i Ystâd Rhug, eiddo 12,500 erw yng ngogledd Cymru. Mae’n ffigur amlwg ym myd ffermio organig ac amaethyddiaeth gynaliadwy, yn adnabyddus am ei waith arloesol a’i ymroddiad i ansawdd. Mae Ystâd Rhug wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei chynnyrch organig, gydag arweinyddiaeth yr Arglwydd Newborough yn chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant.

Wrth wneud sylwadau ar ennill y wobr, dywedodd yr Arglwydd Newborough, “Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd aruthrol, yn enwedig ymhlith cyfoedion mor ysbrydoledig yn sector bwyd a diod bywiog Cymru. Mae adeiladu busnes yn y diwydiant hwn yn galw am weledigaeth, gwydnwch, ac ymrwymiad dwfn i ansawdd, ac rwy’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yn Ystâd Rhug.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymroddiad ein tîm a’n cred gyffredin mewn ffermio organig cynaliadwy. Rydyn ni’n parhau i fod yn uchelgeisiol am y dyfodol ac yn llawn cyffro ynghylch parhau i yrru arloesedd a rhagoriaeth mewn bwyd a diod yng Nghymru.”

Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, sydd bellach yn eu pedwerydd flwyddyn, yn dod â channoedd o gynhyrchwyr a chyflenwyr Cymru o bob cwr o'r sector at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau busnesau ac unigolion sy'n arloesi, yn ehangu, ac yn creu swyddi yn y diwydiant ac a fydd yn ysbrydoliaeth i eraill.

Denodd y digwyddiad gannoedd o gynhyrchwyr, arloeswyr, ac arweinwyr y diwydiant sy'n gyrru twf pellach o fewn economi Cymru.

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

“Mae gwobr Entrepreneur y Flwyddyn yn adlewyrchiad pwerus o'r arloesedd, yr uchelgais, a'r gwydnwch sy'n diffinio sector bwyd a diod Cymru. Mae'n dathlu'r rhai sydd nid yn unig yn adeiladu busnesau llwyddiannus, ond hefyd yn helpu i lunio diwydiant deinamig sy'n ganolog i'n heconomi, ein cymunedau, a'n hunaniaeth genedlaethol.

“Llongyfarchiadau cynnes i'r Arglwydd Newborough o Ystâd Rhug ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae ei arweinyddiaeth a'i ymrwymiad i ragoriaeth gynaliadwy yn ysbrydoliaeth i eraill ar draws y sector.”

Mae Llywodraeth Cymru, drwy Fwyd a Diod Cymru, yn cynnig ecosystem gymorth gynhwysfawr ar gyfer busnesau bwyd a diod, gan eu helpu i dyfu'n gynaliadwy ac yn gystadleuol. O gymorth ariannol a hyfforddiant sgiliau i raglenni cymorth allforio ac arloesi, mae entrepreneuriaid yn elwa o amrywiaeth eang o adnoddau.

Mae mentrau fel y rhaglenni Uwchraddio a Pharod am Fuddsoddiad yn helpu busnesau i oresgyn rhwystrau i dwf—boed yn llywio heriau ar ôl Brexit, costau ynni cynyddol, neu amhariadau ar y gadwyn gyflenwi. Ers 2018, mae'r rhaglen Parod am Fuddsoddiad wedi cefnogi dros 240 o fusnesau, gan godi mwy na £22 miliwn mewn buddsoddiad a chyflawni cyfradd goroesi gyfartalog o 97% ymhlith cyfranogwyr. Mae mynediad at wybodaeth am y farchnad hefyd wedi profi'n amhrisiadwy i fusnesau sydd eisiau ehangu a mynd i mewn i farchnadoedd newydd.

Yn ogystal, mae cymorth technegol a masnachol drwy Brosiect HELIX wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu cwmnïau i arloesi ac ehangu. Mae hyn yn cael ei ategu gan rwydwaith clwstwr cadarn sy'n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, y byd academaidd, a'r llywodraeth ynghyd i feithrin cydweithio a chyflymu twf. Gyda seilwaith uwch, deunyddiau crai o ansawdd uchel, a chefnogaeth gref gan y llywodraeth, mae Cymru wedi dod yn gyrchfan gynyddol ddeniadol ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant bwyd a diod.

Am ragor o wybodaeth am Bwyd a Diod Cymru a'r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i llyw.cymru/bwydaddiodcymru 

Share this page

Print this page