Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn creu cysylltiadau newydd yn Asia
Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru wedi dychwelyd o Japan yn ddiweddar, lle maent wedi bod yn hyrwyddo’r gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn arddangosfa bwyd a diod fwyaf Asia. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mynychodd saith cynhyrchydd bwyd a diod o Gymru Foodex Japan, o dan faner Cymru/Wales, gyda llawer yn dychwelyd wedi gwneud cysylltiadau newydd pwysig, a fydd, gobeithio, yn arwain at archebion proffidiol. Ymhlith yr arddangoswyr...