Mêl Grug Cymru yw’r mêl cyntaf yn y DU i gael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) y mae pawb ei eisiau. Dynodiad cyfreithiol yw hwn sy’n amddiffyn cynhyrchion bwyd a diod rhag cael eu hefelychu a’u camddefnyddio.
O ganlyniad, mae Mêl Grug Cymru wedi ymuno â’r teulu cynyddol o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru sydd, yn rhinwedd eu nodweddion a’u lleoliad unigryw, yn cael eu diogelu o dan Gynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU. Erbyn hyn, mae 24 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru â statws dynodiad daearyddol.
Mae Mêl Grug Cymru bellach ymhlith grŵp cynyddol o gynhyrchion Cymreig sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, gan gynnwys Cig Oen Cymreig PGI, Cig Eidion Cymreig PGI, Ham Sir Gaerfyrddin PGI, Caws Caerffili Traddodiadol Cymreig PGI, a Seidr Traddodiadol Cymreig PGI.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn cryfhau’r teulu cynyddol o fwydydd gwarchodedig yng Nghymru, yn arddangos ansawdd rhyfeddol ein cynnyrch, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel.
“O’r mynyddoedd i’r arfordir, mae Cymru’n cynhyrchu rhai o fwydydd mwyaf eiconig y DU, wedi’u trin â gofal a thraddodiad. Mae pob cynnyrch â dynodiad daearyddol yn adrodd stori ein tirwedd, arbenigedd ein cynhyrchwyr a'n treftadaeth goginiol falch."
Gwnaethpwyd y cais am statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU gan aelodau Clwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru, sydd â 15 aelod. Y nod oedd ceisio diogelu rhinweddau unigryw Mêl Grug Cymru, a thrwy hynny, fywoliaeth y gwenynwyr hynny y mae eu gwenyn yn cynhyrchu’r mêl.
Mae Clwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru yn rhan o Raglen Glystyrau Llywodraeth Cymru. Mae’n dod â busnesau bwyd a diod, cyflenwyr, y byd academaidd a’r Llywodraeth ynghyd gyda’r prif nod o helpu busnesau i gydweithio er mwyn sicrhau twf cyflymach mewn gwerthiant, elw a chynhyrchiant gwell.
Dywedodd y gwenynwr o ogledd Cymru, Alex Ellis o Border Honey, “Mi fydd ennill statws dynodiad daearyddol gwarchodedig i Fêl Grug Cymru yn helpu cynhyrchwyr oherwydd mi fydd yn dangos i’r cyhoedd ei fod yn gynnyrch arbennig ac unigryw na ellir ond ei gynhyrchu yng Nghymru. Mi all defnyddwyr fod yn hyderus pan fyddan nhw’n dewis Mêl Grug Cymru eu bod yn cael y peth go iawn.”
Dywedodd Gruffydd Rees o Gwenyn Gruffydd Cyf yn Sir Gaerfyrddin, “Dw i wrth fy modd bod union darddiad a nodweddion Mêl Grug Cymru wedi cael eu cydnabod. Mae’r broses o ymgeisio am statws dynodiad daearyddol y DU yn un hir, ac mae’n wych mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gael statws dynodiad daearyddol gwarchodedig ar gyfer mêl.”
Dywedodd Dawn Wainwright o Wainwright’s Bee Farm, Aberystwyth, “Mae Grug, Calluna vulgaris, yn blodeuo’n helaeth ar draws ucheldiroedd mynyddig Cymru ddiwedd yr haf. Mae'r gwenyn yn casglu cynhaeaf bach o fêl aromatig nodedig o'r blodau grug sydd â nodweddion unigryw. Mae cemeg y neithdar blodau grug yn rhoi cynnwys protein i'r mêl sy'n cynhyrchu gwead thicsotropig neu debyg i gel gyda chrisialau crensiog drwyddo.
“Gan ychwanegu gwerth at gynnyrch terroir Cymreig, rydym wedi cyflenwi’r mêl prin hwn i Fortnum & Mason ers degawdau ac mae’r mêl hwn, y mae galw mawr amdano, wedi denu nifer fawr o ddilynwyr. Yn frenhines y mêl i’r arbenigwyr mêl, rydym hefyd wedi dod â’r mêl tarddiad sengl hwn i silffoedd siopau Marks & Spencer ledled y wlad.”
Mae Mêl Grug Cymru yn ‘thicsotropig’, sy’n golygu bod gan ei strwythur/gweadedd gysondeb ‘tebyg i gel’, sy’n araf iawn yn caledu. Mae hyn yn gwneud y mêl yn anodd i’w echdynnu, felly mae Mêl Grug Cymru yn aml yn cael ei gynnig fel darn o grwybr mewn mêl.
Mae Mêl Grug Cymru yn goch-oren i felyngoch tywyll ei liw ac mae ganddo ymddangosiad llachar – ond nid clir – ac mae’n aml yn cynnwys swigod aer mewn daliant. Disgrifir ei flas fel ‘melysrwydd dwys gyda mymryn o chwerwder’ ac mae wedi’i ddisgrifio cyn hyn fel ‘taffi llawn menyn’ neu ‘garamel wedi’i losgi’n felys’ gydag arogl o rug.
I fod yn gymwys ar gyfer statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, rhaid i bob cwch gwenyn (neu wenynfa) sy’n cynhyrchu Mêl Grug Cymru fod wedi’i leoli yng Nghymru, a dylai’r neithdar sy’n rhan o’r mêl gael ei chwilota o rostiroedd grug Cymru.
Fe’i cynhyrchir gan Wenynen Fêl y Gorllewin (Apis Mellifera), sy’n chwilota ar rostiroedd grug Cymru lle mae paill grug Ling (Calluna Vulgaris) yn bennaf – yn hytrach na Grug y Mêl (Erica Cinera). Ond mae mêl grug ‘un blodyn’ pur yn brin, gan fod neithdar grug yn aml yn cael ei gymysgu â symiau bach o neithdar o rywogaethau rhostirol eraill fel rhosod helyg pêr, mwyar duon, ac eithin.
Mae’r statws newydd yn berthnasol i ‘Fêl Grug Cymru’ yn unig, sy’n bodloni manyleb y cynnyrch. Nid yw’r dynodiad yn cynnwys mathau eraill o fêl sydd wedi’u cymysgu.
Mae Mêl Grug Cymru heb ei basteureiddio er mwyn sicrhau bod yr holl ensymau sy’n deillio o darddiad naturiol y mêl – ac, felly, ei nodweddion – yn cael eu cadw, a dim ond ychydig o hidlo a ganiateir.
Mae hyd tymor cynhyrchu Mêl Grug Cymru yn ddibynnol iawn ar y tywydd a gall amrywio’n fawr. Fe’i cynhyrchir fel arfer rhwng misoedd Gorffennaf a Medi. Ond yn ddibynnol ar y tymor, gall y ffenestr ar gyfer cynaeafu’r mêl fod yn un fer iawn – weithiau, bydd ond yn para ychydig ddyddiau ac yn gofyn am sgiliau penodol. Felly, mae’r cnwd yn aml yn fach, sy’n gwneud Mêl Grug Cymu yn gynnyrch prin ac o’r radd flaenaf.
*Sefydlwyd cynllun dynodiad daearyddol y DU ar ddechrau 2021 ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae’r cynllun yn sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i gael eu diogelu’n gyfreithiol rhag cael eu hefelychu a’u camddefnyddio.