Mae dau gynhyrchydd o Gymru wedi’u henwi ymhlith y gorau ym Mhrydain, ar ôl ennill Gwobrau Aur yng Ngwobrau Cynhyrchion Siopau Fferm a Delis 2025.
Er gwaethaf cystadleuaeth frwd gan gynhyrchwyr ar hyd a lled y wlad, y cwmnïau Cymreig sy’n dathlu yw Radnor Hills am eu dŵr pefriog Afal a Rhiwbob Heartsease Farm, a Golden Hooves am eu Cheddar Mwg. Hefyd, enillodd Radnor Hills Wobr Arian am eu Lemonêd Mafon Pefriog Heartsease Farm, a gwobrwywyd Golden Hooves yn yr un modd am eu cawsiau Double Gloucester a Red Leicester.
Mae Gwobrau Cynhyrchion Siopau Fferm a Delis yn dathlu’r cynhyrchion gorau yn y sector bwyd a diod arbenigol. Gyda chefnogaeth adwerthwyr annibynnol amlwg, cyfanwerthwyr, ac arbenigwyr y diwydiant, mae'r gwobrau'n cael eu goruchwylio gan banel o feirniaid sy'n cynrychioli gwahanol sectorau o'r diwydiant.
Maent yn adolygu pob agwedd ar bob cynnyrch, gan gynnwys y gadwyn gwerth llawn a brandio, sy'n sicrhau eu bod nid yn unig yn ddeniadol, ond hefyd mewn sefyllfa dda ar gyfer llwyddiant yn y sector annibynnol. Mae'r gwobrau'n agored i gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu mewn siopau fferm, delis, ac adwerthwyr bwyd arbenigol eraill, gyda'r nod o hyrwyddo'r sector annibynnol ac arddangos yr ansawdd sydd ar gael.
Mae’r gwobrau’n cyd-fynd â Sioe Farm Shop & Deli 2025, sydd wedi dechrau heddiw, Ebrill 7 yn yr NEC yn Birmingham ac fydd yn rhedeg tan Ebrill 9. Bydd dirprwyaeth o 10 busnes bwyd a diod yn bresennol fel rhan o ddirprwyaeth o dan faner Cymru Wales Llywodraeth Cymru.
Wrth siarad am lwyddiannau Golden Hooves a Radnor Hills, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, “Mae’n wirioneddol gadarnhaol gweld dau gynhyrchydd o Gymru wedi’u henwi ymhlith enillwyr y gwobrau aur ac arian yng Ngwobrau Cynhyrchion Siopau Fferm a Delis. Rwy’n gwybod pa mor uchel yw’r safon, gyda’r gystadleuaeth yn ffyrnig gan gwmnïau ledled y DU a dim ond nifer fach yn cael eu dewis yn y pen draw.
“Yn fwy cyffredinol, rydw i hefyd yn falch iawn o weld presenoldeb Cymreig mor gryf yn cymryd rhan yn yr arddangosfa eto eleni. Mae’r diwydiant yng Nghymru yn parhau i greu argraff ar hyd a lled y byd am ansawdd ei gynnyrch, a byddwn yn parhau i gefnogi ein busnesau i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r newyddion da sef bwyd a diod Cymreig.”
Y cynhyrchwyr Cymreig fydd yn arddangos fel rhan o Bafiliwn Cymru Wales yw Calon Wen, Coco Pzazz, Cradoc’s Savory Biscuits, Mario’s Ice Cream, Golden Hooves, Halen Môn, Snowdonia Cheese Company, Trailhead Fine Foods, Tregroes Waffles a Welshhomestead Smokery. Bydd dros 30 o gwmnïau eraill hefyd yn arddangos eu cynhyrchion â chefnogaeth prosiect Cywain a rhaglen datblygu masnach, sef cynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu cynhyrchwyr bwyd a diod i dyfu a datblygu eu busnesau ymhellach.
Wrth siarad am eu llawenydd yn y wobr, a’u presenoldeb yn yr arddangosfa, dywedodd Lucy Parr, Rheolwr Datblygu Busnes Golden Hooves, “Rydym mor falch ein bod wedi cael tri o’n cawsiau wedi’u henwi ymhlith y gorau yn y DU gan ein bod wedi gweithio’n galed i greu cynnyrch blasus dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gwobrau fel y rhain yn dangos ei fod yn talu ar ei ganfed. Mae’n glod i’n cydweithfa o gawsiau adfywiol sy’n darparu llaeth i’n ffermwyr adfywiol sy’n darparu llaeth i ni ar ein cyfer!
“Mae’n amser gwych i ymwneud â diwydiant bwyd a diod Cymru, a boed yn ddigwyddiadau fel y rhain neu’n mynd dramor i lefydd fel Dubai i Gulfood, rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’n helpu i godi ein proffil ni a’n ffermwyr ymhellach, a dangos yr hyn y gall Cymru ei gynnig i’r byd. Ni allwn aros i fod yn bresennol yn arddangosfa eleni, a gwn y bydd presenoldeb gwahanol o wahanol gategorïau o Gymru.”
Hefyd wrth eu bodd gyda’u dwy wobr roedd Radnor Hills, gyda’r Rheolwr Marchnata, Chris Butler yn dweud, “Rydyn ni wedi bod yn datblygu ein detholiad Heartsease yn y blynyddoedd diwethaf, ac rydyn ni’n falch iawn o’r ffaith eu bod yn gyfuniad o’n dŵr ffynnon pur a 100% o gynhwysion naturiol.
“Yng Nghymru mae gennyn ni gyfoeth o adnoddau naturiol, ac rydyn ni’n gwneud y gorau o’r rheini drwy’r cynhyrchion rydyn ni’n eu creu. Yr hyn sy’n arbennig o gadarnhaol hefyd yw’r lefel y mae busnesau bwyd a diod Cymru yn cydweithio, ynghyd â Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o dyfu’r diwydiant mewn ffordd gynaliadwy, sydd o fudd i bawb.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd drwy ddigwyddiadau masnach, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes