Bwyd a diod Cymreig yn cryfhau cysylltiadau Cymru a Japan
Bu dirprwyaeth o gwmnïau o Gymru yn ymweld â Japan yn ddiweddar, wrth i’r diwydiant barhau i dargedu agor marchnadoedd newydd ar gyfer ei gynnyrch bwyd a diod. Foodex Japan yw arddangosfa fwyd a diod fwyaf Asia, gyda Llywodraeth Cymru yn cefnogi presenoldeb nifer o gynhyrchwyr o dan faner Cymru/Wales. Mae’r ymweliad yn rhan o ddigwyddiadau ehangach sy’n cael eu cynnal fel rhan o ‘Cymru a Japan 2025’, sef ymgyrch blwyddyn o hyd gan Lywodraeth...