Wrth i Ddiwrnod Gwenyn y Byd agosáu (20 Mai) mae’r genhedlaeth nesaf o dalent wenynyddol yn cael ei meithrin gan ffermwyr gwenyn yng Nghymru drwy gynnig prentisiaethau. Wedi'i ddynodi gan y Cenhedloedd Unedig, mae Diwrnod Gwenyn y Byd yn cydnabod rôl gwenyn a pheillwyr eraill mewn datblygiad cynaliadwy, diogelwch bwyd a bioamrywiaeth. Dewiswyd y dyddiad i gyd-fynd â phen-blwydd Anton Janša, gwenynwr o Slofenia o'r 18fed ganrif sy'n cael ei gydnabod fel arloeswr cadw gwenyn...
Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod
Mae cronfa i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau ddydd Mercher 1 Mai. Mae'r cynllun grantiau bach yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru gan wella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a'u hymwybyddiaeth ohonynt. Bydd y gronfa yn helpu i fynd i'r afael â chamau gweithredu allweddol 'Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod' Llywodraeth Cymru. Mae hefyd...
Expo Bwyd a Diod 2024
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Food & Drink Expo, Birmingham 29 Ebrill - 1 Mai 2024. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw 9 Chwefror 2024. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn stondin a'r costau ac am eich ffurflen gais i arddangos ar y stondin.
Cynhyrchwyr o Gymru i arddangos eu cynhyrchion ym mhrif sioe fwyd a diod y DU
Mae’r grŵp yn cynnwys 44 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru a fydd yn mynychu’r Farm Shop & Deli Show 2024 a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham rhwng 29 Ebrill a 1 Mai. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i gwmnïau sefydledig a sêr newydd o Gymru arddangos eu cynhyrchion i gynulleidfa genedlaethol. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd 13 o gwmnïau bwyd a diod adnabyddus Cymru yn arddangos ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yn...
Busnesau bwyd a diod Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad gweithwyr
Mae arolwg diweddar wedi datgelu bod busnesau Cymreig yn y sector bwyd a diod yn perfformio’n well na’r cyfartaleddau cenedlaethol a byd-eang o ran boddhad gweithwyr. Comisiynodd a chynhaliodd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, arolwg a oedd yn ymchwilio i wahanol feysydd yn y gweithle gan gynnwys boddhad swydd, llesiant, diwylliant sefydliadol, adborth rheolwyr, cyfleusterau, hyfforddiant ac ymgysylltu â gweithwyr. Roedd canfyddiadau’r arolwg yn hynod...
Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd
A ydych chi’n bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion newydd neu gynhyrchion wedi'u hailfformiwleiddio sy'n bodloni gofynion defnyddwyr, sy'n hyfyw yn ariannol, sy'n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf? Os felly, bydd cyfres ZERO2FIVE o Weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn eich tywys drwy'r dull Porth Llwyfan ar gyfer ddatblygu cynhyrchion newydd o’r cysyniad i’r lansiad. Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn, a ariennir yn llawn, yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng...
Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Gweithdy Cychwyn Busnes: Ar gyfer busnesau bwyd a diod newydd
Bydd ein gweithdy cychwyn busnes yn mynd â chi drwy'r camau allweddol a'r ystyriaethau ar gyfer dechrau busnes bwyd a diod. Bydd y gweithdy hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a all eich helpu i droi eich syniadau yn realiti. Nod: I gefnogi unrhyw wneuthurwr bwyd neu ddiod NEWYDD, unrhyw un sy'n ystyried sefydlu fel gwneuthurwr Bwyd a Diod a'r rhai sy'n troi o wasanaeth bwyd i weithgynhyrchu. Rhaid i chi...
Calendr Digwyddiadau 2023 - 2024
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein Rhaglen Digwyddiadau/Ymweliadau Masnach y DU a Rhyngwladol 2023 - 2024
Cymorth lleihau gwastraff wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod Cymru
Trwy Brosiect HELIX, gall arbenigwyr lleihau gwastraff ZERO2FIVE gynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys: Archwiliadau gwastraff - nodi meysydd gwastraff ac atebion posibl i leihau neu ddileu gwastraff Adolygu a dilysu targedau gwastraff Dod o hyd i ddefnyddiau amgen ar gyfer cynhyrchion gwastraff Cysylltwch â nhw
Stad y Rhug yn cynnal dathliadau yn y siop ar gyfer mis B Corp gyda chwmnïau bwyd a diod o Gymru
Mae stad fferm organig flaenllaw ger Corwen, gogledd Cymru wedi ymuno â Chlwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru i ddathlu Mis B Corp yn ystod mis Mawrth. Fel rhan o’r dathliad, mae Stad y Rhug yn cynnal digwyddiad hyrwyddo yn eu siop fferm, sy’n cynnwys detholiad o gwmnïau bwyd a diod B Corp Cymreig. Mae’r digwyddiad hyrwyddo yn y siop sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd tan ddiwedd y mis, yn amlygu ymrwymiad cwmnïau Cymreig...