Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld â’r Almaen i gefnogi bwyd a diod o Gymru
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, wedi ymweld â sioe fasnach bwyd a diod fwyaf y byd yn Anuga, yr Almaen, wrth i'r diwydiant geisio parhau â'i dwf ar lwyfan byd-eang. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwerth allforion bwyd a diod Cymru wedi tyfu £269 miliwn ers 2019, sy’n gynnydd o 47%. Mae hyn yn cynrychioli cyfanswm gwerth o £839 miliwn yn 2024...