Cynhyrchwyr sydd wedi ennill Statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig gyda'u Cynnyrch
  • Mae jin, wystrys a mêl o Gymru wedi cael statws gwarchodedig o dan gynlluniau Dynodiadau Daearyddol
  • Bydd y statws gwarchodedig hwnnw’n gwarantu nodweddion, dilysrwydd a tharddiad y cynhyrchion hynny, yn eu hatal rhag cael eu dynwared ac yn rhoi hyder i ddefnyddwyr wrth iddynt fynd ati i’w prynu
  • Mae’n golygu bod gan y DU bellach gyfanswm o 97 o Ddynodiadau Daearyddol sy’n gwarchod y gorau o gynnyrch pedair gwlad Prydain ac yn cefnogi busnesau a thwf o dan Gynllun Newid Llywodraeth y DU

Bydd jin, wystrys a mêl o Gymru yn ymuno â'r rhestr o gynhyrchion bwyd a diod sydd wedi cael statws dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI) o dan gynlluniau Dynodiadau Daearyddol y DU.

Mae Dovey Native Botanical Gin, Pembrokeshire Native Oysters, Pembrokeshire Rock Oysters a Mêl Grug Cymreig wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am eu rhinweddau unigryw a'u treftadaeth ranbarthol, gan sicrhau mai dim ond eitemau dilys sy'n bodloni safonau cynhyrchu a gofynion daearyddol llym y ceir eu marchnata o dan yr enwau gwarchodedig hyn.

Mae traddodiad coginio Cymru yn dyddio'n ôl ganrifoedd, ac mae ei bwyd a'i diod wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn nhirwedd, diwylliant a hanes y genedl. O ddyfroedd llawn maetholion sy'n cynhyrchu bwyd môr eithriadol i rostir grug lliwgar sy'n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu mêl, mae cynhyrchwyr Cymru wedi creu cynhyrchion unigryw sydd wedi'u siapio gan yr amgylchedd lleol a chan arbenigedd sydd wedi'i drosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall.

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn rhoi mantais werthfawr i gynhyrchwyr yn y farchnad ac mae hefyd yn cynnal dulliau cynhyrchu traddodiadol, yn diogelu ac yn hyrwyddo cynhyrchion lleol ac yn creu cyfleoedd economaidd ym mhob rhan o'r DU o dan Gynllun Newid Llywodraeth y DU.

Dywedodd Gweinidog Diogelwch Bwyd, Ffermio a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, Daniel Zeichner AS:

"Mae'r DU yn gartref i wledd o flasau gwahanol o bob cwr o Ynysoedd Prydain, ac mae'r statws gwarchodedig hwn yn helpu i ddathlu'r grefft a'r dreftadaeth eithriadol sydd wrth wraidd bwyd a diod o Gymru.

"Drwy roi statws unigryw i'r cynhyrchion hyn, rydyn ni’n helpu busnesau lleol i dyfu ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu mwynhau bwyd a diod rhanbarthol go iawn am genedlaethau i ddod."

Mae'r cynhyrchion ychwanegol hyn yn ymuno â chynhyrchion poblogaidd eraill o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod eisoes o dan y cynllun Dynodiadau Daearyddol. Yn eu plith y mae Halen Môr Ynys Môn, Cennin Cymreig, Seidr Traddodiadol Cymreig a Wisgi Cymreig Brag Sengl, sy’n tystio i dreftadaeth goginio gyfoethog Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

"Mae jin Dyfi, wystrys Sir Benfro a mêl Cymreig yn gynhyrchion gwych ac mae'n briodol eu bod yn cael cydnabyddiaeth am fod yn eitemau arbenigol o ansawdd uchel.

"Mae'r cynllun Dynodiadau Daearyddol yn gwarantu ansawdd a rhagoriaeth ac yn dathlu’n cynnyrch lleol Cymreig rhagorol ac yn sbarduno twf yn y sector hanfodol hwn."

 Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn cryfhau ac yn ychwanegu at y teulu o fwydydd Cymreig gwarchodedig, yn dangos ansawdd anhygoel ein cynnyrch, ac yn adlewyrchu’n hymrwymiad i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel. 

"O'r mynyddoedd i'r arfordir, mae Cymru yn cynhyrchu rhai o fwydydd mwyaf eiconig y DU sy’n cael eu tyfu â gofal ac yn unol â thraddodiad. Mae pob un o’r cynhyrchion sydd wedi cael  Dynodiad Daearyddol yn adrodd stori’n tirwedd, yn tystio i arbenigedd ein cynhyrchwyr ac i'r dreftadaeth goginio rydyn ni mor falch ohoni."

Ar ôl i’r cynhyrchion newydd hyn gael eu cofrestru, mae gan y DU bellach gyfanswm o 97 o Ddynodiadau Daearyddol ar gynnyrch o’r radd flaenaf o bob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig.

Mae'r cynlluniau Dynodiadau Daearyddol yn cefnogi busnesau bwyd a diod y DU drwy warchod enw da cynhyrchion rhanbarthol a hyrwyddo gweithgarwch traddodiadol ac amaethyddol, gan hybu twf economïau lleol ar yr un pryd.”

Dywedodd Danny Cameron o Dovey Native Botanical Gin:

“Mae cael Statws Dynodiad Daearyddol yn beth da ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod modd olrhain tarddiad jin botanegol a’i fod yn cael ei gynhyrchu yn unol â safonau uchel a llym."

Dywedodd Gruffydd Rees o Gwenyn Gruffydd Cyf. o Sir Gaerfyrddin:

“Rwy'n falch iawn bod union darddiad a nodweddion Mêl Grug Cymreig wedi cael eu cydnabod. Mae’r broses ymgeisio am Ddynodiad Daearyddol y DU yn un hir, ac mae'n wych bod mêl o Gymru wedi cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, gan olygu mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn y DU lle mae mêl wedi cael statws o’r fath."

Dywedodd Jake Davies, Atlantic Edge Oysters:

"Bydd cael Statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig yn denu cynulleidfa a marchnad ehangach sy'n fwy ymwybodol o gynhyrchion Dynodiadau Daearyddol, a bydd yn ein galluogi i ymuno â'r teulu Dynodiadau Daearyddol sydd â nifer o gynhyrchion rhagorol."

Share this page

Print this page