Bryniau gwyrdd tonnog gyda llwybr cerdded i'r brig

Mae Cymru ar fin cynnal cenhadaeth fasnach fewnol arwyddocaol ddiwedd y mis hwn, gan groesawu prynwyr cig a llaeth o’r Almaen, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Tsiec, y Swistir a’r Iseldiroedd. Nod y daith hon, a drefnir gan Lywodraeth Cymru, yw cryfhau'r cysylltiadau masnach ryngwladol gyda phartneriaid Ewropeaidd a dangos ansawdd eithriadol cynnyrch cig a llaeth Cymru.

Yn ystod eu hymweliad, bydd y ddirprwyaeth yn cael cyfle i gwrdd â chynhyrchwyr blaenllaw Cymru, mynd ar deithiau o amgylch cyfleusterau prosesu, a chael profiad uniongyrchol o'r arferion ffermio cynaliadwy sy'n gwneud cynnyrch Cymreig yn nodedig yn y farchnad fyd-eang.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, "Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein gwesteion rhyngwladol i Gymru ddiwedd y mis hwn. Mae'r genhadaeth fasnach fewnol hon yn gyfle gwych i dynnu sylw at y safonau uchel a'r nodweddion unigryw sydd gan ein cynnyrch cig a llaeth. Mae'r fenter hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i ehangu allforion a meithrin perthnasoedd masnach gynaliadwy a chryf gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Bydd ein gwesteion yn cael profi prydferthwch tirlun Cymru, sy’n chwarae rhan mor annatod yn ansawdd a tharddiad ein cynnyrch cig a llaeth."

Mae cynhyrchwyr Cymreig yn edrych ymlaen at y cyfle i arddangos eu cynnyrch. Dywedodd Stuart McNally, Cyfarwyddwr Masnachol a Gweithrediadau Calon Wen, "Mae hwn yn gyfle gwych i'n pump ar hugain o ffermydd teuluol ddangos ansawdd a gofal ein cynnyrch llaeth organig. Rydym yn falch o’n pump ar hugain mlynedd o ddarparu bwyd cynaliadwy a moesegol y gallwch ymddiried ynddo, ac edrychwn ymlaen at adeiladu perthnasau parhaol gyda’n cymheiriaid Ewropeaidd."

Ychwanegodd Arglwydd Newborough o Stad Rhug, "Mae cig oen Cymru yn enwog am ei flas a’i ansawdd. Mae croesawu prynwyr Ewropeaidd yn ein galluogi i rannu ein hangerdd dros ragoriaeth ac archwilio marchnadoedd newydd. Rydym yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o gynyddu allforion a’r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar ein heconomi leol. Rydym yn falch o gynnal y ddirprwyaeth hon ar daith o amgylch ein stad ac i gael te prynhawn, gan ganiatáu i ni arddangos yr arferion organig a chynaliadwy sy’n gonglfaen i Stad Rhug."

Dywedodd Michael Mort, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol Cwmni Hufenfa De Arfon, “Rydym yn ehangu ein hallforion mewn cydweithrediad â’n partner, Coombe Castle International. Mae’r genhadaeth hon yn cynnig cyfle gwych i arddangos ein cyfleuster prosesu o’r radd flaenaf a’n cawsiau sy’n ennill gwobrau. Fel prif gydweithfa laeth ffermwyr Cymru, rydym yn falch o ddangos y cysylltiadau agos rydym yn eu cynnal gyda’n ffermwyr llaeth."

Mae'r ystadegau diweddaraf yn tynnu sylw at lwyddiant cynyddol allforion bwyd a diod Cymru. Yn 2023, cyrhaeddodd gwerth allforion bwyd a diod Cymru uchafbwynt hanesyddol o £813 miliwn. Y categorïau allforio mwyaf oedd Cig a Chynhyrchion Cig (£280 miliwn), Grawnfwydydd a Pharatoadau Grawnfwyd (£175 miliwn), a Chynhyrchion Llaeth ac Wyau Adar (£131 miliwn). Yn arbennig, aeth 75% o allforion bwyd a diod Cymru i’r UE, gan danlinellu pwysigrwydd marchnadoedd Ewropeaidd i gynhyrchwyr Cymru.

Mae’r daith fasnach fewnol yn cynnwys sawl uchafbwynt:

  • Taith a the prynhawn yn Stad Rhug, lle bydd prynwyr yn gweld ymrwymiad y stad i arferion ffermio organig a chynaliadwy.
  • Cinio rhwydweithio yn Y Ffarmers, tafarn Gymreig draddodiadol yng Ngheredigion sy’n enwog am weini cynnyrch lleol a thymhorol, gan roi cyfle i brynwyr a chynhyrchwyr gysylltu â chryfhau eu perthnasoedd mewn awyrgylch fwy anffurfiol.
  • Bydd prynwyr hefyd yn derbyn bag anrhegion yn cynnwys rhai o frandiau bwyd a diod Cymru, gan roi blas ar yr ystod amrywiol o gynnyrch o ansawdd uchel sydd gan gynhyrchwyr Cymreig i'w cynnig.

 

Mae prynwyr o'r Swistir, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Tsiec a’r Iseldiroedd wedi mynegi eu brwdfrydedd am y genhadaeth hon. Dywedodd Alexander Speth o Fideco, "Rydym eisoes yn cydweithio â chynhyrchwyr Cymreig ac wedi cael profiad uniongyrchol o ansawdd eithriadol eu cynnyrch. Rydym yn gyffrous i archwilio ymhellach y cynhyrchion cig a llaeth o safon premiwm o Gymru. Mae'r genhadaeth hon yn gyfle unigryw i sefydlu cysylltiadau uniongyrchol â chynhyrchwyr Cymreig a chael gwell dealltwriaeth o’u hymrwymiad diwyro i ragoriaeth."

Ychwanegodd Karolina Garbarz o Temar, Gwlad Pwyl, "Mae’r arferion ffermio cynaliadwy a safon cynnyrch Cymru yn drawiadol. Edrychwn ymlaen at ddarganfod cynhyrchion newydd ac adeiladu ar y partneriaethau cryf sydd gennym eisoes gyda chynhyrchwyr Cymreig."

Dywedodd Kay Uplegger, o Uplegger Food Company, yr Almaen, "Mae gan Gymru enw da am gynhyrchu cynhyrchion llaeth. Bydd yr ymweliad hwn yn ein galluogi i weld drosto ein hunain y cysegriad a'r angerdd sy'n rhan annatod o ffermio a chynhyrchu bwyd yng Nghymru, ac rydym yn gyffrous am y potensial ar gyfer cydweithrediad pellach."

Share this page

Print this page