Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi In the Welsh Wind a Kellanova yn llysgenhadon swyddogol y rhaglen. Mae’r bartneriaeth strategol hon yn gam mawr tuag at feithrin twf, datblygiad, a thalent yn sector bwyd a diod Cymru.
Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn ymroddedig i arfogi unigolion a busnesau â’r sgiliau a’r arbenigedd hanfodol sydd eu hangen i ffynnu mewn diwydiant sy’n esblygu’n barhaus. Trwy gydweithio ag arweinwyr y diwydiant fel In the Welsh Wind a Kellanova, nod y rhaglen yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol a dyrchafu’r gwaith o ddatblygu sgiliau ledled y wlad.
Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu In the Welsh Wind a Kellanova fel llysgenhadon. Mae eu hymrwymiad i ragoriaeth ac arloesi yn cyd-fynd yn berffaith â’n cenhadaeth i feithrin gweithlu medrus iawn sy’n llywio llwyddiant sector bwyd a diod Cymru.”
Fel llysgenhadon, bydd In the Welsh Wind a Kellanova yn chwarae rhan bwysig yn:
Ysbrydoli Talent y Dyfodol: Byddan nhw’n rhannu eu harbenigedd a’u profiadau i gymell ac arwain darpar weithwyr proffesiynol.
- Gwella Datblygiad Sgiliau: Byddan nhw’n cyfrannu at ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Codi Proffil y Diwydiant: Byddan nhw’n eiriol dros bwysigrwydd datblygu sgiliau a hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Ellen Wakelam, Prif Weithredwr In the Welsh Wind:
“Mae bod yn llysgennad ar gyfer rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn gyfle gwych i In the Welsh Wind gyfrannu’n uniongyrchol at ddyfodol ein diwydiant. Mae’n caniatáu inni rannu ein brwdfrydedd a’n harbenigedd, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, a chwarae rhan ganolog wrth lunio gweithlu medrus a fydd yn sbarduno arloesedd a thwf yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at gysylltu â busnesau ac unigolion eraill, gan feithrin amgylchedd cydweithredol lle gallwn oll ddysgu a ffynnu.”
Mae Kellanova hefyd yn falch iawn o fod yn bartner i raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru.
Dywedodd Mike Edge, un o gyfarwyddwyr Kellanova:
“Mae’n bleser gan Kellanova bartneru â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a chyfrannu at ddatblygu talent y dyfodol. Roedd ein hymweliad yn ddiweddar â Bryn Tirion Hall School ynghyd â Swyddog Ymgysylltu’r rhaglen yn brofiad gwerth chweil. Mi wnaeth ein galluogi i gysylltu’n uniongyrchol â myfyrwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous am yrfa yn y diwydiant bwyd a diod. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin perthynas gref ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy fentrau fel hyn. Mae bod yn llysgennad yn ein galluogi i gymryd rhan weithredol mewn adeiladu gweithlu medrus a bywiog ar gyfer y dyfodol.”