Clystyrau
Covid 19
Mae Menter a Busnes yn monitro’r sefyllfa’n ymwneud â’r Coronafeirws (COVID-19) yn barhaus, ynghyd â’r effaith ar gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru. Rydym ni wedi siarad gyda’r prif adwerthwyr, ac nid yw’r mwyafrif ohonynt yn cynnal cyfarfodydd wyneb i wyneb ar hyn o bryd ac maent wedi canslo unrhyw deithio nad yw’n hanfodol.
Bwletin parodrwydd busnes arbennig - gwybodaeth pwysig i fusnesau a chyflogwyr am coronafeirws (COVID 19)
Dyma rifyn arbennig o fwletin parodrwydd busnes i gymdeithasau masnach, cyrff sy'n cynrychioli busnesau a chyfryngwyr busnes sy'n darparu gwybodaeth bwysig i chi a'ch aelodau busnes a rhwydweithiau ar coronafeirws (COVID-19). (Saesneg yn unig)
Rhaglen Partneriaeth Arloesi ar Waith
Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gwahodd prosiectau cydweithredol i ddatblygu atebion arloesol ym maes bwyd a diod sy’n ymdrin â heriau cymdeithasol a heriau yn y sector cyhoeddus neu broblemau cyffredin sy’n wynebu grwpiau bach o fusnesau yn y diwydiant bwyd a diod.
-
Briff y Rhaglen (IP_WG_001)
-
Nodiadau Esboniad (IP_WG_002)
-
Ffurflen Gais (IP_WG_003)
-
Nodiadau Esboniadol ar gyfer y Ffurflen Gais (IP_WG_004)
Llyfryn Bwyd a Diod Cymru Rhwydwaith Clwstwr
Clwstwr Mêl
Nod y Rhaglen Datblygu Busnes yw galluogi busnesau mêl Cymreig i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi’r sector i dyfu trwy ddarparu cefnogaeth benodol - mae’r rhaglen Clwstwr yn enghraifft o’r gefnogaeth hon.
Map sy'n amlinellu'r holl wenynwyr yng Nghymru sydd wedi cofrestru drwy brosiect Cywain neu clwstwr Mêl sy'n cynhyrchu mêl i'w werthu, er mwyn i chi allu canfod y cynhyrchwyr agosaf atoch chi.
Garddwriaeth Cymru
Nod Garddwriaeth Cymru yw helpu tyfwyr a chynhyrchwyr i leihau gwastraff a gwella oes silff, cynaliadwyedd ac elw.
Comisiynodd prosiect Garddwriaeth Cymru Prifysgol Wrecsam Glyndwr gyfres o ffilmiau byrion er mwyn dangos yr amrywiol ffyrdd y bu busnesau - pob un ohonynt yn aelodau o'r prosiect - yn gweithio i gefnogi cymunedau ledled Cymru yn ystod y pandemig C-19, o gyfyngiadau cyfnod clo mis Mawrth a thu hwnt.
- Canolfan Arddio Camlan (Saesneg yn unig)
- Caffi Cletwr (Saesneg yn unig)
- Gardd Ffiseg Bont-faen (Saesneg yn unig)
- FlintShare (Saesneg yn unig)
- Quinky (Saesneg yn unig)
- Zingiber (Saesneg yn unig)
Mae’r Clwstwr Datblygu Diodydd wedi cael ei lansio fel rhan o raglen Clwstwr Llywodraeth Cymru a chaiff ei anelu at gefnogi twf trwy gydweithio a chysylltedd diwydiannol.
Tyfu'r Diwydiant Diodydd yng Nghymru
Cylchlythyr Clwstwr Diodydd - Ebrill 2020 Sgroliwch i lawr am y Gymraeg
Mae gwasanaethau allweddol yng Ngwynedd yn cael ei cyflenwi gyda diheintydd llaw gan gwmni jin lleol. (Saesneg yn unig)
Gall allforio weddnewid eich busnes, ac mae buddion potensial yn cynnwys gwerthiant ac elw cynyddol, yn ogystal ag annog creadigrwydd ac arloesedd, a chynyddu effeithiolrwydd.
Mae’r Rhaglen Datblygu Busnes yn anelu at alluogi busnesau pysgodfeydd Cymreig i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi’r sector i dyfu gyda chefnogaeth benodol.
Cyfeiriadur Cyflenwyr a Chyfanwerthwyr Bwyd Mor Cymreig
Map o Gyflenwyr a Chyfanwerthwyr Bwyd Mor Cymreig
Rhwydweithio - Cefnogi'r sector bwyd Mor Cymru
Nod y Rhaglen Datblygu Busnes yw galluogi busnesau Cymreig i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig i dyfu trwy ddarparu cefnogaeth benodol – mae’r rhaglen Clwstwr yn enghraifft o’r gefnogaeth hon.
Mae'r Clwstwr Busnes Effaith Uchel wedi'i lanso fel rhan o raglen datblygu clystyrau Llywodaeth Cymru.
Datblygu Clwstwr NutriWales (Maeth Cymru)
Bydd y Clwstwr yn ysgogi ymchwil ar y cyd, yn datblygu cynnyrch, yn rhoi mynediad at farchnadoedd newydd a bydd o fudd i economi Cymru yn ogystal ag i iechyd maethol Cymru.