Sewin wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru (PGI)
'Sewin wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru' yw'r enw a roddir i rywogaeth pysgod Salmo trutta sy'n cael eu dal drwy ddull traddodiadol, hynafol Cymreig o bysgota cyryclau. Yn 2017, dyfarnwyd statws PGI i'r cynnyrch hwn, sydd wedi'i blethu ag afonydd a morluniau Cymru.
Syfrdanol yw gweld y cyryclau megis basgedi bychain wedi'u gwneud â llaw yn cael eu llywio drwy'r dŵr gan un unigolyn drwy ddull rhodli rhythmig ag un llaw. Rhwydd yw dychmygu hwn fel traddodiad hynafol oherwydd bod ei wylio yn brofiad sydd bron yn chwedlonol - yn wir, cafodd ei gofnodi yn gyntaf yn y 11eg ganrif ac mae wedi bod yn ddiwydiant cartref yng ngorllewin Cymru ers 1800au. Wedi dweud hynny, er ei fod yn arfer hanesyddol, pysgota cyryclau oedd y ffurf hysbys gynharaf o bysgota â threillrwyd, felly mae wedi bod yn ddylanwadol wrth lywio dulliau pysgota y 21ain ganrif.
Mae pysgota cyryclau yn cynnwys pâr o gyryclau o onnen a helygen, yn gweithio gyda'i gilydd gyda rhwyd rhyngddynt. Mae pysgota gan ddefnyddio'r dull hwn yn bennaf yn digwydd gyda'r nos er mwyn atal y sewin rhag gweld cysgod y cyryclau neu'r rhwyd yn dod tuag ato wrth iddo ddychwelyd i'w fan claddu wyau. Mae pysgota gan ddefnyddio cyryclau yn y tywyllwch yn gofyn gallu arbennig, a rhaid i'r ddau bysgotwr gydweithio'n berffaith. Caniateir drwy'r gyfraith bysgota cyryclau am sewin yn yr afonydd Taf, Tywi a'r Teifi yn unig yng ngorllewin Cymru.
Mae sewin, neu frithyll y môr Cymreig yn bysgod mudo a gallant fyw mewn dŵr ffres a dŵr hallt. Maent yn cenhedlu mewn dŵr ffres ac yn byw yn yr afonydd am y rhai blynyddoedd cyntaf cyn dychwelyd i'r môr yn gynnar yn y gwanwyn bob blwyddyn i fwydo a thyfu. Anodd yw coelio ar ôl oddeutu 2 flynedd eu bod yn dychwelyd i'r afon lle cawsant eu geni i ddechrau'r cylchred unwaith eto. Mae "Sewinwedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru" yn unigryw oherwydd cânt eu dal cyn gynted ag y cyrhaeddant yr afonydd o'r môr yn nŵr bas a llanw'r afon.
Mae cyhyrau'r pysgod wedi'u datblygu i ansawdd uwch sy'n golygu bod ganddynt gnawd cadarn a gwead dwys. Mae ganddynt siâp athletaidd hir, amlwg, heb ddyddodion gormodol o fraster yn sgil y pellter hir maent wedi'i nofio yn y môr a'r mannau bwydo o safon sydd ar gael iddynt. Wedi'u coginio, mae gan "Sewin wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru" flas "menyn" unigryw, ysgafn gydag awgrym o gnau ac mae blas ffres glân ac ysgafn unigryw iddynt.
Sewin Mwg wedi i Ddal gyda Chyryclau Gorllewin Cymru (PGI) gyda Remoulade Seleriac
Prif gyswllt: juliecoracles@gmail.com