Anglesey Sea Salt /Halen Môn

Anglesey Sea Salt/Halen Môn (PDO)

Mae 'dilysrwydd' yn air sy'n cael ei orddefnyddio'n aml, ond does dim ffordd arall o ddisgrifio'r arloesedd hwn pan mae Anglesey Sea Salt a Halen Môn dan sylw. Yn 1997, berwodd Alison a David Lea Wilson ddŵr môr Ynys Môn ar eu popty Aga ac yn ddiarwybod iddynt, gwnaethant ddechrau cwmni hynod lwyddiannus. Erbyn hyn maent yn llysgenhadon i'w halen byd-enwog sy'n gwbl rhydd rhag ychwanegion ac yn cynnwys dros 30 o elfennau a mwynau naturiol.

Heddiw, caiff Halen Môn ei fwynhau ledled y byd gan gogyddion a'r rheiny sy'n frwd dros fwyd ac sy'n rhyfeddu ar fflochiau crisialog gwastad, unigryw a blas glân dŵr môr Môn, heb unrhyw chwerwder a achosir gan ormod o galsiwm a all ddigwydd mewn halwynau eraill. Daw Halen Môn o ddŵr môr pur afon Menai sydd wedi'i hidlo yn naturiol ymlaen llaw drwy lan dywod a glan o gregyn gleision. Yn brawf i lendid y dŵr, mae hyd yn oed morfeirch yn mynd yno i fridio, ac mae'r rheiny'n enwog o ffyslyd ynghylch eu hamgylchedd.

I ddathlu ac amlygu'r straeon arbennig wrth wraidd y cynnyrch Cymreig balch hwn, dyfarnwyd statws PDO i Halen Môn yn 2014. Mae hyn yn golygu y gallwn ddiogelu ei statws fel yr unig halen môr a gynaeafir o'r Afon Menai rhwng Ynys Môn a thir mawr gogledd Cymru.

Prif gyswllt: alison@halenmon.com