Traditional Welsh Cider

Seidr Cymreig Traddodiadol (PGI)

Caiff yr hylif hwn sy'n gyfwerth ag aur Cymreig ei wneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a'r cynhwysion mwyaf ffres. Cynhyrchir Seidr Cymreig Traddodiadol yng Nghymru o sudd afalau seidr wedi'u gwasgu o unrhyw amrywiaeth o afalau brodorol neu anfrodorol a dyfir yng Nghymru. I gymhwyso fel 'Seidr Cymreig Traddodiadol', rhaid tyfu afalau seidr, cynhyrchu sudd o'r gwasgiad cyntaf, gwneud y broses eplesu a photelu neu lenwi casgenni gyda'r seidr yn yr ardal ddaearyddol ddiffiniedig. Golyga hyn gyda phob llymaid o'r seidr hwn, rydych yn gwybod yn union lle cafodd yr afalau eu tyfu a'u gwasgu. Wedi dweud hynny, nid yw pob swp (neu cuvée) yr un fath - mae'r amrywiaeth o afalau a ddefnyddir wrth gynhyrchu'r seidr yn effeithio ar ei flas sy'n ychwanegu at ansawdd artisan y cynnyrch unigryw hwn.

Fel y gallwch ddyfalu, mae traddodiad yn ffurfio rhan sylfaenol o gynhyrchu'r cynnyrch PGI hwn. Bydd yr afalau'n naill ai'n disgyn o'r coed neu cânt eu hysgwyd a'u casglu â llaw neu beiriant. Yna, gadewir nhw i aeddfedu'n naturiol cyn iddynt gyrraedd y felin lle cânt eu golchi a'u melino i greu pwlp. Mae chwalwr yn torri'r ffrwyth cyfan i ffurfio pwlp, sydd yna'n cael ei wasgu i echdynnu'r sudd. Mae'r cynnyrch terfynol yn gynnyrch 'byw' naturiol heb ei basteureiddio. Caiff purdeb y cynnyrch hwn ei ddiogelu oherwydd ni chaniateir ychwanegu crynodiad ffrwyth, siwgrau, melysyddion, lliw a charbonadu artiffisial ymhlith elfennau eraill.

Nid yn unig mae'r ddiod draddodiadol, hynod naturiol hon yn ffurfio rhan o straeon ffermio hanesyddol - mae'n elfen fyw o amaethyddiaeth Gymreig. Mae adfywiad gwneud seidr yn digwydd yng Nghymru, sy'n cael ei hybu gan safonau artisan a dulliau prosesu naturiol. Drwy ddyfarnu statws PGI i Seidr Cymreig Traddodiadol yn 2017, bydd hyn yn cynorthwyo i roi seidr Cymreig ar y map.

Prif gyswllt: oldmontycider@gmail.com