Traditionally Reared Pedigree Welsh Pork

Porc Cymreig o Dras wedi'i fagu'n Draddodiadol (TSG)

Fel mae teitl y cynnyrch hwn yn awgrymu, traddodiad sydd wrth wraidd DNA yr arfer hon o fagu cig moch. Caiff Cig Moch Cymreig o Dras wedi'i fagu'n Draddodiadol ei fagu drwy arferion traddodiadol penodol sy'n gwbl wahanol i systemau cynhyrchu masnachol, confensiynol. Cynhyrchir y cig moch Cymreig hwn o Foch Cymreig o Dras - rhaid i enedigaeth yr holl foch gael ei chofrestru â Chymdeithas Moch Prydain neu gymdeithas bridio moch a rhaid iddynt feddu ar lyfr buches Moch Cymreig o Dras. Er mwyn cydymffurfio â'r arfer draddodiadol, rhaid caniatáu i'r moch dyfu'n naturiol, eu magu ar raddfa fawr a chael cyn lleied o straen â phosibl. Daw cig moch Cymreig o foch cadarn sydd wedi'u magu ar raddfa fawr dan do ac yn yr awyr agored, gan lynu wrth safon uchel o lesiant anifeiliaid. Caniateir arferion hwsmonaeth dwys, modern, gan gynnwys clipio dannedd, modrwyo trwynau a thorri cynffonau dim ond yn ôl cyngor milfeddygol ac ni ddylid eu hystyried yn driniaethau arferol.

Oherwydd cyfraddau aeddfedu a thyfu'r moch, rhoddir mwy o amser i'r cig moch ddatblygu blas cyflawn a chadarn. Mae lliw y cig yn tywyllu pan gyflawnir pwysau lladd ac yn aml mae patrwm marmor y braster yn amlwg ac yn ychwanegu blas unigryw, cyfoethog ac ansawdd bwyta.

Mae ffermio moch yn rhan allweddol o ffermio Cymreig, ac mae defnyddio arferion traddodiadol yn rhoi bywyd i hanes ffermio Cymru yn ogystal â sicrhau'r safonau llesiant uchaf i'r anifeiliaid.

Dyfarnwyd statws TSG i Gig Moch Cymreig o Dras wedi'i Fagu'n Draddodiadol yn 2017 am ei ddulliau cynhyrchu traddodiadol sy'n amlwg yn gwneud y cynnyrch hwn yn unigryw mewn cymhariaeth â chigoedd cyfatebol. Mae hyn yn ein caniatáu ni i gefnogi parhad y dulliau ffermio hyn sy'n ffurfio rhan ryfeddol o dreftadaeth amaethyddol.

Lwyn Porc Cymreig Pedigri wedi i Fagu n Draddodiadol (TSG) gyda Stwffin Eirin Dinbych a Saws Seidr Cymreig