Cig Oen Cymreig PGI
Does dim yn fwy eiconig na Chig Oen Cymreig. Mae defaid ac ŵyn Cymreig yn ffurfio rhan sylfaenol yn hanes, treftadaeth, a diwylliant Cymru. Nid cynnyrch neu arfer yw cig oen Cymru, mae'n ffordd o fyw ac yn rhan hanfodol o dapestri amaethyddol Cymru. Cawn ein hystyried gan y byd fel arbenigwyr cig oen wrth i ni ymfalchïo yn y gydnabyddiaeth hon, ar ôl trosglwyddo gwybodaeth drwy genedlaethau o deuluoedd ffermio.
Daw cig oen Cymreig o fridiau defaid lleol, cadarn, unigryw, defaid Mynydd Cymreig, Croesryw Cymreig, Hanner Brid Cymreig, Beulah, Mynydd Penfrych Cymreig, Defaid Llŷn, Llanwennog, a Maesyfed yn bennaf. Mae Cymru yn darparu'r defaid hyn gyda digonedd o borthiant a'r rhyddid i grwydro'r mynyddoedd geirwon a'r dyffrynnoedd. Caiff holl ŵyn Cymreig PGI eu magu ar dir fferm Cymreig gyda safonau uchel o lesiant anifeiliaid ac olrheiniadwyedd llwyr.
Ein cig oen oedd un o'r cynhyrchion cyntaf i gael ei ddyfarnu â statws PGI yn 2003 ac rydym yn parhau i ddefnyddio'r statws hwn i ddiogelu'r cynnyrch arbennig hwn sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r tirlun naturiol heb ei ddifetha sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae cyrff llywodraethu mewn lle i sicrhau bod gonestrwydd a dilysrwydd y cig yn cael eu cynnal. Hybu Cig Cymru (HCC) yw gwarcheidwaid Cig Oen Cymreig PGI. HCC yw'r sefydliad a arweinir gan ddiwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig.
Rac a chrwst Harrisa o Gig Oen Cymru PGI gyda couscous pomgranad
Prif gyswllt;- Hybu Cig Cymru 01970 625050
info@hccmpw.org.uk