The Vale of Clwyd Denbigh Plum

Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd (PDO)

Mae 'Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd' mor unigryw ag yr awgryma'r enw - dyma'r unig amrywiaeth o eirin sy'n frodorol i Gymru a chaiff ei dyfu yn ardal ddaearyddol ddynodedig Dyffryn Clwyd yn Sir Ddinbych, gogledd Cymru. Fel y ffrwyth cyntaf i ymuno â theulu Dynodiad Daearyddol Cymru fel cynnyrch PDO yn 2019, mae gan yr eirin bychain hyn dipyn o stori i'w hadrodd.

Mae Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd ynghlwm yn annatod wrth y pridd Cymreig y tyfant ynddo - gyda'i statws PDO, gellir ond eu tyfu yn Nyffryn Clwyd yng ngogledd Cymru, lle mae'r tir wedi'i ddosbarthu fel cartref i rai o'r priddoedd mwyaf naturiol ffrwythlon yn y DU. Gyda'i bridd maethlon a'i ficrohinsawdd unigryw, mae Dyffryn Clwyd yn llwyddo i dyfu cnwd uchel o eirin yn gyson. Os oes eu hangen at ddibenion coginio, cânt eu cynaeafu yng nghanol Awst cyn eu bod wedi aeddfedu neu os oes eu hangen fel eirin pwdin, gadewir nhw i aeddfedu ar y goeden a'u cynaeafu yn hwyr ym mis Awst neu'n gynnar ym mis Medi.

Mae'r eirin coch dwfn hyn sydd ag arlliw o borffor yn debyg i dlysau, gyda smotiau euraidd ar wasgar arnynt. Maent yn siâp sffêr neu ychydig yn eliptaidd ac yn mesur rhwng 25mm hyd at 65mm o ben y coesyn i'r pen arall. Mae blas dyfnach i'r eirin pwdin sy'n chwerw-felys. Dyfnder y blas a'r melyster sy'n gwahaniaethu 'Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd'. Wedi'u coginio, mae'r blas yn dwysáu, atgyfnerthir melyster naturiol yr eirin ac mae gwead y ffrwyth yn toddi yn y geg os cânt eu bwyta yn gynnes.

Datblygodd y cais am statws Dynodiad Daearyddol i'r ffrwyth anhygoel hwn o fenter gymunedol i sicrhau bod Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd yn cael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu. Fel yr unig eirinen sy'n frodorol i Gymru, daw hyn â sylw i ranbarth Dinbych a Dyffryn Clwyd sy'n denu ymwelwyr i'r ardal ac wedi ysgogi ton newydd o bobl yn plannu coed eirin yn yr ardal.

Tarten Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd (PDO)

Prif gyswllt: valeofclwyddenbighplum@gmail.com