Bara Lawr Cymreig (PDO)
Mae bara lawr "mor Gymreig â'n rhostiroedd tonnog, corau meibion persain ac enwau llefydd hirion" - Robin Turner
Daw Bara lawr Cymreig o lafwr (gwymon) wedi'i goginio sydd wedi'i dynnu â llaw o arfordir Cymru. Mae gwead unigryw a blas hallt iddo sy'n rhoi blas o fôr ffres Cymru. Lafwr neu porphyra umbilicalis yw'r unig wymon sy'n un gell o drwch.
Caiff y lafwr ei goginio mewn sypiau, naill ai'n barhaus am 3-4 awr ar dymheredd uwch na 98˚ C neu ar dymheredd is o 80˚C am hyd at 9 awr. Gall yr amser coginio amrywio drwy gydol y flwyddyn, gyda'r lafwr ieuengach, mwy suddlon yn cael ei gasglu yn y gwanwyn ac yn aml angen ei goginio dros gyfnod byrrach o amser. Pan fydd wedi'i goginio, yn dibynnu ar ba mor llaith ydyw, caiff y gwymon naill ai ei ddraenio yn gyntaf neu ei roi'n uniongyrchol mewn peiriant malu a'i wneud yn biwrî. Fel arall, i wneud bara lawr mwy gweadog, gellir torri'r lafwr yn fras.
Mae bara lawr wedi'i wreiddio yn hanes Cymru fel ffynhonnell hanfodol o faeth. Roedd y ffynhonnell hon o fwyd sy'n cynnwys llawer o egni yn arbennig o bwysig i weithwyr caled y pyllau glo yng nghymoedd mwyngloddio de Cymru, lle daeth yn brif fwyd brecwast. Yn aml byddai merched a phlant a oedd hefyd yn gweithio dan ddaear yn y pyllau yn dioddef o ddiffyg maeth, a byddant yn cael eu cynghori gan feddygon i fwyta Bara Lawr Cymreig oherwydd ei fod yn cynnig ffynhonnell o haearn heb ei debyg.
Heddiw, mae Bara Lawr yn ddanteithfwyd Cymreig, wedi'i ddisgrifio'n enwog gan Richard Burton fel 'cafiâr y Cymro'. Yn aml caiff ei weini wedi'i ffrio fel rhan o frecwast Cymreig traddodiadol gyda chocos a bacwn.
O ffynhonnell fwyd hanfodol gyda phroffil unigryw o faeth i ddanteithfwyd Cymreig, mae'r 'blas hwn o arfordir Cymru' yn syfrdanol o amlbwrpas. Dyfarnwyd Bara Lawr Cymreig â statws PDO yn 2017 i ddathlu ei gysylltiadau cynhenid â morluniau a chymunedau Cymru.
Prif gyswllt: info@selwynsseafood.com