PGI Welsh Beef

Cig Eidion Cymreig PGI

Cig Eidion Cymreig oedd yn cynnal fflam PGI yng Nghymru gan mai dyma'r cynnyrch cyntaf i gyflawni'r statws. Ymddengys bod hyn yn gydnabyddiaeth addas i gynnyrch sy'n ffurfio rhan arbennig o bwysig o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Yn hanesyddol, bridiau gwartheg traddodiadol pennaf Cymru oedd y Gwartheg Duon Cymreig a Gwartheg Henffordd, a'r bridiau hyn sy'n dal i fod wrth wraidd diwydiant cig eidion Cymru hyd heddiw. Daw cig eidion Cymreig o fridiau traddodiadol Cymru a'r bridiau hyn wedi'u croesi â'i gilydd neu gydag unrhyw frid cydnabyddedig arall.

Mae ein gwartheg yn ffurfio rhan allweddol o'r tirlun amaethyddol yng Nghymru. Mae'r gwartheg yn bwydo ar ddigonedd o laswelltiroedd ffrwythlon yng Nghymru sydd yn eu tro yn cael eu bwydo gan hinsawdd wlyb, fwyn Cymru. Caiff holl Gig Eidion Cymreig PGI eu magu ar dir fferm Cymreig gyda safonau uchel o lesiant anifeiliaid ac olrheiniadwyedd llwyr.

Rydym yn parhau i ddefnyddio statws PGI Cig Eidion Cymru i ddiogelu'r cynnyrch arbennig hwn sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r tirlun naturiol heb ei ddifetha sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae cyrff llywodraethu mewn lle i sicrhau bod gonestrwydd a dilysrwydd y cig yn cael eu cynnal. Hybu Cig Cymru (HCC) yw gwarcheidwaid Cig Eidion Cymreig PGI. HCC yw'r sefydliad a arweinir gan ddiwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig.

Prif Gyswllt: Hybu Cig Cymru 01970 625050


info@hccmpw.org.uk