Conwy Mussels

Cregyn Gleision Conwy (PDO)

Caiff y berthynas gysylltiedig rhwng yr amgylchedd naturiol a gweithgarwch dynol ei gwerthfawrogi'n llwyr yn y broses anhygoel hon, y mae cynaliadwyedd yn allweddol iddi. Caiff cregyn gleision Conwy eu cynaeafu drwy gribino â llaw gwelyau cregyn gleision naturiol aber Conwy yng ngogledd Cymru. Mae'r dull mwyn, traddodiadol hwn yn caniatáu i welyau'r cregyn gleision adfer sy'n sicrhau y cânt eu cadw i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r dull cribino â llaw, trefnus hwn yn heddychlon i'w wylio, ac yn golygu bod cregyn gleision bach nad ydynt yn ddigon aeddfed i'w cynaeafu eto yn disgyn drwy'r bylchau yn y cribin.

Rhaid i'r cychod cynaeafu cregyn gleision fod yn fyrrach na 15 metr o hyd, sy'n atal cychod treilio mawrion rhag cael eu defnyddio i gasglu Cregyn Gleision Conwy ac felly mae'n cadw'r arfer ar raddfa fach a chynaliadwy. Defnyddir cychod drafftio bas bychain sy'n draddodiadol yn cael eu defnyddio ar gyfer pysgota (o'r enw 'Dorys'). Caiff y cribino â llaw ei wneud ar y cychod hyn, sy'n ddigon mawr i un person ar y cwch ar y tro. Mae cribino cregyn gleision yn cymryd amser a gallu arbennig, gall gymryd 5 neu 6 thymor i feistroli'r gelfyddyd o gribino cregyn gleision go iawn. Dim ond pedwar teulu sy'n defnyddio dulliau traddodiadol i bysgota cregyn gleision yng Nghonwy. Mae'r gallu wedi'i drosglwyddo drwy ddwy genhedlaeth o'r pedwar teulu hyn yng Nghonwy ers dros 150 o flynyddoedd.

Mae'r gofal a'r traddodiad sydd ynghlwm wrth gynhyrchu cregyn gleision Conwy yn amlwg yn y cynnyrch gorffenedig. Mae cregyn gleision Conwy yn enwog am fod yn llawn cig a sudd ac mae ganddynt gymhareb cig i gregyn drawiadol. Mae ganddynt flas hallt cyfoethog sy'n tynnu dŵr o'ch dannedd a gwead trwchus a digon o gnoi ynddo. Mae blas a maint cregyn gleision Conwy yn deillio o'u hamgylchedd unigryw yn ddwfn yn aber Conwy. Maent yn fawr oherwydd eu bod yn tyfu mewn dŵr dwfn lle mae mwy o blancton ar gael i'r cregyn gleision fwydo arnynt, sy'n arwain at gregyn gleision iachus a chryf. Yn ogystal, mae'r aber dwfn yn achosi'r dŵr i gylchredeg sy'n cynhyrchu amgylchedd â chydbwysedd unigryw o ddŵr môr hallt a dŵr afon melys.

Ymunodd cregyn gleision Conwy â'r teulu Dynodiadau Daearyddol yn 2016, gan ennill statws clodfawr a'n helpu ni i adrodd stori'r cynnyrch unigryw hwn.

Moules Mariniere Cregyn Gleision Conwy (PDO)

Tempwra Cregyn Gleision Conwy (PDO) gyda Dip Bara Lawr Cymreig

Prif gyswllt: info@conwymussels.com