Welsh Wine PDO and Welsh Regional Wine PGI

Gwin Cymreig (PDO/PGI)

Efallai nad oeddech yn ymwybodol, ond mae Cymru yn cynhyrchu rhai o'r gwinoedd arloesol, gorau sy'n cael eu cydnabod fwyaf ledled y byd. Mae diwydiant gwin Cymru yn ffynnu ac yn ehangu'n gyflym gyda llu o winllannau wedi'u lleoli ledled Cymru. Tyfir dros 20 o amrywiaethau gwahanol o rawnwin yng Nghymru, yn cynhyrchu gwin Coch, Gwyn a Phinc, naill ai'n llonydd neu befriog.

Mae nodweddion tirlun Cymru yn cynhyrchu gwin sydd ag asidrwydd cras. Mae holl winllannau Cymru wedi'u lleoli'n uwch na 49.9 gradd i'r gogledd sy'n arwain at oriau hir o olau dydd yn y tymor tyfu. Mae lledred gogleddol y gwinllannau yn creu'r tymor tyfu hir a'r oriau golau dydd hirion sy'n allweddol i ddatblygu blasau ag arogleuon cryf. Mae'n caniatáu'r defnydd o ystod eang o amrywiaethau grawnwin gan gynnal y nodweddion sylfaenol sy'n codi yn sgil lledred eithafol Cymru.

Bob blwyddyn, bydd gwin Cymru yn mynd drwy broses drylwyr er mwyn cyflawni'r statws PDO neu PGI hwn sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang. Dyfarnir statws Dynodiad Daearyddol i winoedd cynhaeaf penodol ar ôl proses ymgeisio a chael cymeradwyaeth gan banel blasu. Rhaid i bob Gwin Cymreig posibl lwyddo mewn prawf dadansoddi ar ôl potelu a phrawf organoleptig. Felly, dim ond y gwin gorau sydd wedi deillio o bridd Cymreig ac wedi'i drwytho mewn arbenigedd sy'n cael ei ddyfarnu â statws eiconig PDO neu PGI.

Prif gyswllt: robb@whitecastlevineyard.com