Gwneud gwahaniaeth
Nid rhan o'n hanes yn unig yw ein bwyd a'n diod. Mae hefyd yn rhan ddyfodol pob un ohonom ni: chi, ni, pawb.
Mae bwyd da yn dechrau gyda chynhwysion da, wrth gwrs. Diolch i ffermwyr, tyfwyr a physgotwyr am hynny. Ond mae angen pobl sydd â dychymyg, sgil a dewrder i wneud rhywbeth anhygoel gyda'r holl botensial crai hwnnw.
Mae egwyddorion sylfaenol tyfu cnydau da, magu anifeiliaid hapus, a bragu cwrw braf wedi bodoli erioed. Erbyn hyn mae ton newydd o gogyddion, bragwyr, pobyddion, distyllwyr a chynhyrchwyr crefftus ar gael, sy’n brysur yn cyfuno hen draddodiadau Cymreig â dylanwadau byd-eang.
Rydym ni wastad wedi gwybod pa mor bwysig yw gwneud hyn yn gynaliadwy, fel bod y pantri’n llawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ond mae'r gwerthoedd hynny'n ymddangos yn bwysicach nag erioed erbyn hyn.