Wedi'u creu â llaw

 

Bwyd a diod sy’n ennill gwobrau, sydd wedi'u diogelu gan statws, sy'n blasu o’r lle maen nhw’n dod, sut maen nhw’n cael eu gwneud, a'r diwylliant a'u creodd.

Mewn gwlad fach fel ein gwlad ni, ansawdd, nid maint, sy’n bwysig. Mae Cymru wedi ennill cannoedd o Wobrau Great Taste am ein cynnyrch. Dyma'r cynllun achredu bwyd byd-eang mwyaf uchel ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, a chydnabyddiaeth ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn.

Mae gan Gymru hefyd 'statws gwarchodedig' ar gyfer 16 o'n cynnyrch Cymreig mwyaf unigryw. Mae'n rhan o gynllun byd-eang ehangach sy'n dathlu ac yn diogelu bwyd rhanbarthol gorau'r byd: lle mae’n cael ei wneud, sut mae’n cael ei wneud, a'i bwysigrwydd i'n hanes a'n diwylliant.

Cynnyrch o safon, wedi'i wneud o'r cynhwysion gorau, gan bobl sy'n poeni'n angerddol am yr hyn y maen nhw’n ei wneud – ac am yr amgylchedd sy'n ein cynnal ni. Blas go iawn o Gymru.

Dysgwch fwy am ba fwyd a diod o Gymru sydd â'r statws Dynodiad Daearyddol (GI) mawreddog. Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI), Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO), neu Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG), rydyn ni’n credu eu bod nhw i gyd yn haeddu bod yn enwog am eu statws 'Gwirioneddol Eiconig'.

 

 

Mae'r tir hwn yn ein cynnal ni

Dyma lle mae'r cyfan yn cychwyn. Tirwedd a morlun sy'n berffaith i dyfu, dal a magu cynhwysion o'r radd flaenaf. Rydych chi’n gofalu am y tir, ac mae’r tir yn gofalu amdanoch chi.

Gwneud gwahaniaeth

Mae’r holl gynhwysion cywir gennym ni. Ond mae'n cymryd sgil a dychymyg i'w troi nhw'n rhywbeth arbennig iawn. Dyma'r bobl sy'n gwneud i hynny ddigwydd.

Ryseitiau

Beth am roi cynnig ar un o'n ryseitiau blasus, a nodedig Gymreig? Wedi'u creu gyda chariad a gofal gan arbenigwyr bwyd, chewch chi mo’ch siomi – mae hynny’n sicr.