BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Byddwch yn ddilynwr storm

Byddai greddf naturiol yn dweud wrth rywun nad nawr, wrth i’r storm ruo o’n cwmpas, yw’r adeg iawn i ddechrau busnes. Mae gwariant cyffredinol yn llawer is ac efallai nad yw rhwyd diogelwch y “Cynllun wrth gefn” o “allu mynd yn ôl i fyd cyflogaeth yn gyflym” mor syml ag yr arferai fod. Rwy’n deall hynny.

Ond mae mwy iddi na hynny, does bosib?

Rydym yn gweld bod yr oes COVID-19 hon yn arwain at fwy o gyfleoedd entrepreneuraidd nag erioed. Pryd bynnag y ceir newid seismig fel hyn ym mywydau personol a busnes pobl, mae’n torri ar draws y ffordd arferol o wneud pethau. Mae angen atebion newydd a gwahanol ar gyfer eu problemau newydd a gwahanol.

Mae pobl nid yn unig yn cydnabod bod yn rhaid iddyn nhw newid, ond mae llawer wrthi’n rhagweithiol yn chwilio am rywbeth neu rywun a all eu helpu i ddatrys problem a achoswyd yn sgil y cyfyngiadau symud. Yn anad dim, maen nhw’n fwy goddefol nag erioed i atebion gan bobl newydd fel chi. Maen nhw’n llawer mwy parod i fod yn arbrofol o ystyried yr “amgylchiadau digynsail”. Peidiwch â gadael i hyd a lled y sefyllfa hon eich llethu. Mae hon yn storm berffaith lle bydd cwmnïau newydd yn cael eu geni a’u magu.

Y camau cyntaf – cynnig a chwsmer 

Felly, os yw’r syniad o ddechrau eich busnes wedi apelio atoch, pa gamau “fawr ddim perygl” cychwynnol ddylech chi eu cymryd i ddechrau ar eich taith?

Mae angen syniad arnoch sy’n cynnwys dau beth….. cynnig a chwsmer. Felly, er enghraifft, “cynhyrchu masgiau wyneb ffasiynol ar gyfer menywod y mileniwm”.

Gallai’ch cynnig gael ei sbarduno gan syniad gwych, syniad technolegol arloesol neu fod yn seiliedig ar angerdd arbennig sydd gennych chi. Mae’n rhaid iddo fod yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud yn dda iawn ac y byddech chi’n hoffi ei wneud am gyfnod estynedig.

A chithau nawr â chynnig, mae angen i chi ystyried y peth pwysicaf, sef cwsmer sy’n talu. Fod bynnag, dydy un cwsmer sy’n talu ddim yn ddigon, rydych chi angen cwsmeriaid sy’n talu i gynhyrchu digon o arian fel y gallwch chi wneud elw. Yn hytrach na cheisio bod yn bopeth i bawb, ceisiwch ganolbwyntio ar un ‘niche’ fach. O’r farchnad arbenigol hon, datblygwch nifer o broffiliau cwsmeriaid posibl neu ‘bersonas’ fel y’u gelwir.

Bydd hyn yn rhoi syniad go lew i chi o’r canlynol:

  • a oes ganddyn nhw angen heb ei ddiwallu y mae’ch cynnig chi yn ei fodloni
  • a fydden nhw’n prynu’ch cynnig, pa mor aml a faint ohono
  • a fydden nhw’n cael eu dylanwadu gan bethau eraill/ pobl eraill wrth benderfynu prynu

Drwy sgyrsiau ymchwil rhad a sylfaenol gyda phobl sy’n cyfateb i’ch persona, gallwch sefydlu’n gyflym a yw’ch cynnig yn bodloni galw yn y farchnad. Pan fyddwch chi’n darganfod hyn, mae gennych chi’r hyn a elwir yn “Gynnyrch/Addas i’r Farchnad”. Cydnabyddir hyn yn eang fel y cam cyntaf wrth adeiladu busnes newydd yn llwyddiannus.

All neb ddylanwadu’n uniongyrchol ar sefyllfa COVID-19, ond gallwn reoli'r ystyr a roddwn iddi. Manteisiwch ar y cyfle prin sy’n eich wynebu mewn cyfnod anodd. Po dduaf yw’r storm, po fwyaf lliwgar yw’r enfys.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.