BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadw ymwelwyr a Chymru yn ddiogel

Yn y sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru y llynedd, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI ac AdventureSmart UK ynghylch sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i gadw'n fwy diogel yn yr awyr agored. Mae adnoddau o'r weminar hon yn dal i fod ar gael ar Arhoswch yn Fwy Diogel yn yr Awyr Agored | Busnes Cymru (gov.wales)

Gyda milltiroedd o arfordir, afonydd a llynnoedd trawiadol i'w harchwilio yng Nghymru, mae'r RNLI ac AdventureSmart UK yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ddiogelwch dŵr i unrhyw un sydd eisiau mynd allan ar y dŵr a chymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr niferus.

Gall busnesau hefyd helpu achub bywydau trwy hyrwyddo negeseuon diogelwch dŵr allweddol mewn cymunedau lleol ledled Cymru drwy gymryd rhan yng nghynllun llysgenhadon dŵr lleol yr RNLI.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.