BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ar gyfer siopau nad ydyn nhw’n gwerthu bwyd

Wrth baratoi ar gyfer ailagor siopau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol, mae’r BRC (Consortiwm Manwerthu Prydain) ac USDAW (Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol) wedi cyhoeddi canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol mewn siopau nad ydyn nhw’n siopau bwyd.

Mae’r canllawiau ‘Social Guidance in Retail Stores’ yn cynnwys gwybodaeth am gadw pellter cymdeithasol y tu mewn a thu allan i siopau ac ystafelloedd newid, ac ar ddiogelu gweithwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan USDAW.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.