BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cronfa Cadernid Economaidd

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd yn parhau i’w cael eu heffeithio’n negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021.

Mae ceisiadau ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd gyda throsiant o fwy na £85,000 yn cau am 12pm Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021.

Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer y busnesau hynny sy'n gymwys gyda throsiant llai na £85,000. Bydd y grant hwn ar agor tan 9 Awst 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais ewch i Covid-19 Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.