BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd 2020.

Fel rhan o’r gweithredu i gefnogi busnesau mewn cyfnod o galedi parhaus o ganlyniad i COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 30 Medi, wedi cael ei estyn tan 31 Rhagfyr 2020.

Dylid parhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, ond bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.