BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Gweminarau cymorth ariannol ar gyfer busnesau bach

Ydych chi am gael gwybod mwy am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer busnesau bach yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19)?

Cofrestrwch ar gyfer gweminarau am ddim a gynhelir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Cymorth ariannol ar gyfer busnesau bach yn ystod coronafeirws - a gynhelir ddydd Mawrth 5 Mai 2020 am 11am. Bydd y gweminar hwn yn trafod:

  • cymhwyster ar gyfer grantiau busnes bach
  • gwneud cais am fenthyciad
  • treth
  • hawlio ar gyfer cyflogau drwy Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

I gofrestru ar y gweminar, ewch i wefan Eventbrite.

Rheoli eich busnes yn ystod coronafeirws: adrodd, rheoliadau a threth - a gynhelir ddydd Iau 7 Mai am 11am. Bydd y gweminar hwn yn trafod:

  • gwiriadau hawl i weithio
  • ffeilio adroddiadau a chyfrifon
  • cynllun amser i dalu

I gofrestru ar y gweminar, ewch i wefan Eventbrite.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.