BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Gweminarau Hyderus o ran Anabledd

Mae rhwydweithiau UK Ability Networks yn cynnal gweminarau am ddim er mwyn cyflwyno gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr i sicrhau eu bod yn cadw cyswllt agos gyda’r gymuned o gyflogwyr hyderus o ran anabledd, fel bod pobl anabl yn parhau i gael eu recriwtio a’u cadw mewn gwaith yn ystod COVID-19 ac ar ôl hynny ac nad ydyn nhw’n cael eu gadael ar ôl.

Mae pynciau’r gweminarau a mwy o fanylion isod:

  • New Ways of Working – how best to support disabled people – 22 Ebrill 2020, 11.30am hyd 12pm, archebwch eich lle yma
  • Managing Communications in your team and ensuring accessibility – 30 Ebrill 2020, 11.30am hyd 12.00pm, archebwch eich lle yma
  • Looking after your health and well-being – 6 Mai 2020 – 11.30am hyd 12pm, archebwch eich lle yma
  • Recruiting and Retaining Disabled People 13 Mai 2020, 11.30am hyd 12pm, archebwch eich lle yma

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.