BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Rheolau newydd i warchod gweithwyr yn ystod yr achosion o goronafeirws

Cyhoeddwyd rheolau newydd i ddiogelu gweithwyr yn ystod achosion coronafeirws.

Bydd y rheoliadau’n golygu y bydd y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yn berthnasol i unrhyw weithle, gan gynnwys cartrefi, lle mae gwaith ac atgyweiriadau’n cael eu gwneud a mannau awyr agored.         

Bydd rhaid i bob busnes weithredu pob mesur rhesymol i sicrhau bod y rheol 2m yn cael ei chynnal rhwng pobl yn yr eiddo pan mae gwaith yn cael ei wneud. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.

Cymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle: canllawiau atodol cyhoeddwyd ar 14 Ebrill 2020. Maeʼr canllawiau hyn yn ategu canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 7 Ebrill 2020 ac yn canolbwyntio ar y prawf cyfreithiol a gymhwysir gan y rheoliadau i gynnal pellter corfforol mewn lleoliad gwaith. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.