BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi gweithwyr llawrydd y sector creadigol

Bydd gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yng Nghymru yn cael dyraniad ychwanegol o £8.9 miliwn.

Bydd y dyraniad ychwanegol o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol yn golygu y bydd pob un o'r gweithwyr llawrydd a gefnogir eisoes yn derbyn £2,500 ychwanegol i'w cefnogi drwy'r cyfnod estynedig hwn o lai o weithgarwch. 

Bydd gweithwyr llawrydd sydd wedi derbyn cymorth yn derbyn llythyr hunan-ddatganiad y bydd angen iddynt ymateb iddo fel bod modd rhyddhau’r cyllid.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Nid yw'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau newydd gan weithwyr llawrydd, dylai unrhyw un a fethodd gael y cyllid yn wreiddiol geisio gwneud cais i gael Grant Dewisol Lleol, mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.