BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi cymhellion mawr newydd ar gyfer cyflogwyr i’w helpu i recriwtio prentisiaid

Mae busnesau yng Nghymru yn gymwys i gael cymelldaliadau sydd ar gyfer cyflogi prentisiaid newydd.

Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol o ran darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a’r economi, gan gynnig cyfle i recriwtio mewn ffordd gosteffeithiol ac adeiladu gweithlu medrus.

Gall unrhyw gyflogwr yng Nghymru, ni waeth beth fo maint ei fusnes na’r sector y mae’n gweithio ynddo, elwa ar y cymelldaliadau i recriwtio prentisiaid:

  • cymelldaliad sydd werth hyd at £3,000 ar gyfer cyflogi prentis newydd
  • cymelldaliad sydd werth hyd at £2,600 ar gyfer ailgyflogi prentis sydd wedi’i ddiswyddo
  • cymelldaliad o £1,500 ar gyfer cyflogi prentis anabl, y gellir ei hawlio yn ychwanegol at y cymelldaliadau ar gyfer prentisiaid newydd a phrentisiaid wedi’u diswyddo

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Porth Sgiliau Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.