BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Cadarnhaodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ei bod yn debygol mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

O fis Ebrill 2023, bydd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cynyddu o £30 yr wythnos i £40 i  fyfyrwyr addysg bellach cymwys sydd yn y chweched dosbarth neu mewn coleg.

Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn grant wythnosol sydd wedi ei lunio i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd incwm isel gyda chostau addysg bellach megis teithio neu brydau bwyd.

Mae myfyrwyr addysg bellach yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg os yw incwm yr aelwyd yn £20,817 neu’n is, os mai nhw yw’r unig berson ifanc ar yr aelwyd, neu £23,077 os oes mwy nag un person ifanc ar yr aelwyd. Mae cyfrifiannell addysg bellach (Cyllid Myfyrwyr Cymru) ar gael i wirio cymhwystra myfyrwyr.

Bydd y cynnydd yn ymrwymiad am y ddwy flynedd academaidd nesaf, tra bydd adolygiad cynhwysfawr o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei gynnal.

Hefyd, yn ogystal â’r cynnydd i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyhoeddodd Jeremy Miles bod cyllid ar gael i ganiatáu apelau rhad ac am ddim i ddysgwyr sydd o dan anfantais yn economaidd sy’n astudio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod haf 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg | LLYW.CYMRU

Recriwtiwch brentis a thrawsnewid eich busnes drwy sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr ac yn y dyfodol, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Prentisiaethau | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.