BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Cymryd Rheolaeth

Ar ôl diffinio'ch gweledigaeth yn glir a pharatoi eich hun yn feddyliol ar gyfer eich cenhadaeth, mae un cam pellach i'w gymryd cyn i chi anelu am y sêr. Mae angen i chi gydnabod, yn y pen draw, mai chi sy'n gyfrifol am lwyddo neu fethu, ac mai chi fydd y prif sbardun y tu ôl i'ch ymgais.  

Mae hyn yn golygu mai chi fydd â’r cyfrifoldeb, a bydd angen i chi fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb llawn dros lywio eich hun tuag at foddhad. Yn sicr, mae'n debygol y bydd pobl allweddol a fydd yn eich helpu i gyrraedd y man lle rydych chi eisiau bod, ond eich cyfrifoldeb chi fydd eu dewis, hysbrydoli a'u hysgogi. Er y byddwch yn sicr o gael cyngor ac arweiniad arbenigol ar hyd y ffordd, chi fydd yn gyfrifol am yr holl benderfyniadau allweddol a bydd angen i chi gymryd y cam cyntaf ac arwain o'r tu blaen yn gyson. Felly, mae'n hanfodol bod gennych y penderfyniad, yr ymroddiad a'r hyder i gymryd yr awenau a dod yn arweinydd gwych. 

Mae ein blogiau dydd Iau sydd ar y gweill yn edrych ar y ffactorau y mae angen i chi eu hystyried i greu'r feddylfryd lwyddiannus hon, fel eich bod nid yn unig yn barod i ymateb i'r heriau sydd o'ch blaen, ond hefyd yn barod i gymryd cyfrifoldeb llawn dros reoli eich tynged eich hun a llywio eich ffordd i lwyddiant. 

- John Leach, Prif Swyddog Gweithredol, Winning Pitch

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.