BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Help to Grow: Digital

Cynllun newydd ledled y DU yw Help to Grow: Digital sy’n helpu busnesau bach a chanolig i fabwysiadu technolegau digidol sydd wedi’u profi fel rhai sy’n cynyddu eu cynhyrchiant.

Bydd y cynllun yn cynnig cyngor diduedd ac am ddim i BBaChau ar sut gall technoleg helpu eu busnes. Bydd platfform ar-lein yn eu helpu i:

  • nodi eu hanghenion technoleg ddigidol
  • asesu opsiynau o ran prynu technoleg
  • rhoi technolegau newydd ar waith yn eu gweithrediadau

Bydd y cynllun hefyd yn cynnig taleb grant gwerth hyd at £5,000 i BBaChau cymwys i dalu am hyd at hanner costau datrysiadau technoleg ddigidol sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw.

Am ragor o wybodaeth, ewch i gov.uk/helptogrow

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn barod i helpu datblygu eich hyder digidol er mwyn i chi allu canolbwyntio ar dyfu’ch busnes yn 2022, cofrestrwch heddiw.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.