BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun newydd i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio mewn swyddi ‘sero net’ yfory

Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swyddi newydd yn economi sero net yfory.

Heddiw (28 Chwefror 2023), cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gynllun Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach: Sgiliau Sero Net. Mae’r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau wrth gefnogi ein heriau sero net, drwy roi’r sgiliau cywir i’n gweithlu presennol ac i weithwyr y dyfodol.

Wrth lansio’r cynllun newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae’r cynllun Sgiliau Sero Net rwy’n ei gyflwyno heddiw wedi’i lunio i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr heddiw'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i weithio mewn swyddi sero net yfory; swyddi a fydd yn dod yn gonglfaen diwydiannau newydd y dyfodol sydd naill ai yn eu dyddiau cynnar neu ddim yn bodoli eto."

Mae’r cynllun, sy’n cael ei gyflawni drwy weledigaeth hirdymor, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, busnesau a diwydiant, y sectorau addysg a sgiliau a'r undebau llafur yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r daith sgiliau hon a’i chefnogi. Drwy gydweithio, y nod yw paratoi dinasyddion Cymru ar gyfer Sgiliau yn y dyfodol fel galluogwr critigol cydnabyddedig i gyflawni’r uchelgeisiau hyn. Bydd yn sicrhau bod y newid yn gyfiawn ac nad yw’r aelodau sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn wynebu beichiau annheg yn sgil costau’r newid.

Mae’r her i gyflawni ein hymrwymiad sero net yn enfawr a bydd angen dull cydweithredol i gyflawni ein gofynion sgiliau yn y dyfodol, a hynny ar draws yr economi gyfan. Wrth lunio’r cynllun, rydym wedi gweithio’n drawslywodraethol, gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid allweddol i gael darlun o’r sefyllfa sgiliau sero net yn erbyn yr wyth sector allyriadau a nodir yn Cymru Sero Net. Mae ein heconomi yn esblygu, a bydd angen inni gyd newid y ffordd rydyn ni’n gweithio i gwrdd â’r gofynion sgiliau cynyddol.

Cydnabyddir yn eang fod y galw am sgiliau sero net yn cynyddu ledled Cymru ac rydym am eich helpu a’ch cefnogi i dyfu a hyfforddi eich gweithlu. Bydd tyfu’r sylfaen sgiliau sero net yn eich tîm yn eich helpu i gyrraedd marchnadoedd yn y dyfodol ac ymateb i economi sy’n newid yn gyflym.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth ar gyfer Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach, bydd y Cynllun Sgiliau Sero Net yn cyflawni 36 o gamau gweithredu dros 7 o feysydd blaenoriaeth allweddol.

Byddwn ni’n dechrau drwy edrych ar y sefyllfa sgiliau mewn mwy o fanylder, ac yna’n cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar ofynion sgiliau penodol y sector. Bydd hyn yn amlinellu ein dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa sgiliau ym mhob sector, pa sgiliau sydd eu hangen yn y tymor byr, canolig a hir a sut i gyflawni hyn drwy gydweithio parhaus. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn helpu i lunio cynllun sgiliau ar gyfer pob sector allyriadau, a fydd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau a buddsoddi ynddynt yn y dyfodol.

“Dim ond dechrau’r broses hon yw cyhoeddi’r cynllun newydd. Ni all y Llywodraeth fynd i’r afael â’r her ar ei phen ei hun. Dull Tîm Cymru gyfan yw’r unig ffordd y gallwn ni fwrw ymlaen â’r newidiadau hyn a chyflawni ein hymrwymiadau sero net. Mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb a chwarae eu rhan wrth gymryd camau i wella arferion, buddsoddi mewn pobl a chymunedau i arloesi ac adeiladu economi fwy gwydn."

Gellir dod o hyd i’r Cynllun drwy’r ddoleni ganlynol:

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan, dewisiwch y ddolen ganlynol Sgiliau Sero Net | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.