Sgiliau Sero Net

EIN NOD:Datblygu gweithlu medrus a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r her sero net sy’n ein hwynebu
Ydych chi am gael gwybod mwy am yr hyn y mae Cymru yn ei wneud i helpu gyda’n hanghenion o ran sgiliau wrth inni bontio i'n dyfodol Sero Net?
Ein carreg filltir gyntaf oedd lansio’nCynllun Gweithredu Sgiliau Sero NetRydym yn mynd ati yn y cynllun hwnnw i amlinellu’r sefyllfa sydd gan Gymru ar hyn o bryd ac i nodi sut y bydd sgiliau'n gwbl allweddol os ydym am wireddu’n huchelgais sero net.
Mae 36 o gamau gweithredu yn y cynllun, ar draws 7 Blaenoriaeth, a’r nod yw helpu i nodi ac i ddarparu’r sgiliau cywir sydd eu hangen yn awr ac yn y dyfodol i’n helpu ar ein taith sero net.
https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-sgiliau-sero-net
Beth mae sgiliau sero net yn ei olygu i'ch busnes chi?
Mae'r galw am sgiliau sero net yn parhau i dyfu ym mhob cwr o Gymru. Mae’n heconomi’n newid, a bydd yn rhaid inni i gyd addasu’n ffyrdd o weithio er mwyn diwallu’r gofynion cynyddol hyn o ran sgiliau.
Rydym am roi cymorth ichi ddeall y manteision i’ch gweithlu a’r effeithiau a gaiff buddsoddi mewn hyfforddiant, cymwysterau a sgiliau. Bydd hynny’n eich helpu i adeiladu’ch busnes ac i fod yn barod am y newidiadau i’r economi. Mae'r newidiadau hynny’n cynnwys datblygiadau ym maes technoleg, arferion newydd, yn ogystal â rhedeg eich busnes mewn ffordd fwy economaidd, gan hoelio mwy o sylw ar gynaliadwyedd. Gall hynny helpu’ch busnes yn y ffyrdd isod:
Costau ynni is ac enillion effeithlonrwydd yn y tymor hwy
- Mwy o obaith ennill busnes newydd
- Cynhyrchion a gwasanaethau arloesol
- Yn fwy tebygol o sicrhau buddsoddiad a chontractau newydd
- Dod yn fwy effeithlon a rhoi seiliau mwy cadarn i’ch busnes
- Gwella delwedd eich brand a meithrin ymddiriedaeth a theyrngarwch ymhlith eich cwsmeriaid
- Pennu safonau arferion gorau y gall eraill eu dilyn
- Bodloni gofynion safonau a rheoliadau
- Datblygu gweithlu mwy amrywiol ac Ystwyth
Rydym am weithio gyda chi i'ch helpu i ddeall yr opsiynau a'r dewisiadau y gallwch eu gwneud yn awr er mwyn cael effaith ar y dyfodol.
Felly pam ddylwn i ystyried buddsoddi mewn sgiliau?
Rydym am eich helpu a'ch cefnogi i dyfu ac i hyfforddi’ch gweithlu. Efallai nad yw meithrin sgiliau sero net yn un o brif flaenoriaethau’ch busnes ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd rhyddhau staff i fynd ar gyrsiau, a hynny am nifer o resymau, gan gynnwys llwyth gwaith neu brinder staff. Mae llawer o'n rhaglenni hyfforddi a'n llwybrau gwella sgiliau yn helpu eisoes i ddatblygu setiau sgiliau y mae diwydiant a busnesau yn galw amdanynt.

Beth yw'r opsiynau sydd ar gael ichi ar hyn o bryd?
Os ydych yn awyddus i ehangu’ch gweithlu, mae llawer o opsiynau a llwybrau ar gael.

Mae cymorth a chefnogaeth i hyfforddi ac i recriwtio drwy’n rhaglenni presennol a'r cyfleoedd a ddarperir drwy gyflogi pobl anabl, ar gael drwy opsiynau Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraethau Cymru;
Hoelio Sylw ar Hanesion o Lwyddiant yng Nghymru
Mae mwy a mwy o fusnesau'n mynd ati i wella’u cynaliadwyedd ac i ddangos yr effaith gadarnhaol y maent yn eu cael ar y bobl a'r lleoedd o'u hamgylch. Mae'r rhain yn gymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel ac sy'n gweld y manteision sy’n gysylltiedig â sicrhau bod gan eu gweithlu y sgiliau cywir.
Rydym wedi datblygu nifer o astudiaethau achos byr, sy’n tynnu sylw at rai o'r newidiadau y mae cyflogwyr yn eu gwneud ar hyn o bryd. Mae’r astudiaethau hynny’n dangos sut mae’r newidiadau’n effeithio ar eu harferion busnes ond hefyd yr effaith y maent yn ei chael o ran datblygu gweithlu medrus a fydd yn gallu ymateb i heriau'r dyfodol.
https://www.llyw.cymru/astudiaethau-achos-sgiliau-sero-net
Gobeithio y bydd yr enghreifftiau hyn yn eich helpu i weld y posibiliadau o’r newydd ac i benderfynu buddsoddi mewn sgiliau.
Am fod yn rhan o’r sgwrs a dylanwadu ar sgiliau'r dyfodol?
Hoffem ddeall mwy am y rhwystrau a’r heriau sy’n eich hwynebu wrth ichi fynd ati i wella sgiliau’ch staff er mwyn helpu i wireddu’n hymrwymiadau sero net erbyn 2030.
Wrth inni fynd ati i ddatblygu'r cynllun, gwnaethom drafod yn helaeth â rhanddeiliaid sy’n frwd o blaid darparu'r sgiliau a'r cyfleoedd cywir a fydd yn helpu i wireddu’n hymrwymiad sero net, yn ogystal â helpu Cymru i dyfu ac i ffynnu.
Byddwn yn parhau i wneud hynny er mwyn inni i gyd feithrin dealltwriaeth lawn o anghenion busnesau, yr anghenion at y dyfodol, a'r sgiliau sydd eu hangen.
Diben y camau gweithredu yn y cynllun yw creu system sgiliau fwy hyblyg, ymatebol, ac ystwyth yng Nghymru. Ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain: mae angen i bobl o nifer o feysydd ddod ynghyd i fynd â’r maen i’r wal, ac mae hynny'n cynnwys cyfraniadau gennych chi fel cyflogwyr.
Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith hwn, mae nifer o opsiynau a nifer o sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw: NetZeroSkills@gov.wales
Lle gallwch chi fynd er mwyn cael Cymorth a Chefnogaeth?
Mae gwahanol opsiynau ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth i’w gweld ar wefan Busnes Cymru - Recriwtio a Hyfforddi. Darganfod mwy at Yn Gefn i Chi