Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC)

Mae SGC yn adnodd cyhoeddus di-dâl.

Mae’r SGC yn diffinio sut y byddai gweithiwr medrus a chymwys yn cyflawni pob rhan o'i rôl.


Mae’r SGC yn disgrifio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth, y nodweddion a'r ymddygiad sy’n ofynnol i ymgymryd â, neu gyflawni tasg neu swydd benodol ar lefel cymhwysedd sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol.


Maent yn disgrifio perfformiad effeithiol o fewn rôl swydd, gan gynnwys unrhyw gyfrifoldebau statudol neu gyfreithiol.


Er enghraifft, yr hyn y mae rhaid i chi allu ei wneud a’r hyn y mae angen i chi ei wybod a’i ddeall ar gyfer y canlynol:

  • Swyddogaethau rheoli ac arweinyddiaeth fel recriwtio, dewis a chadw pobl yn eich busnes, rheoli ymsefydlu staff a datblygu / gweithredu cynlluniau marchnata.

  • Swyddogaethau ariannol megis rheoli cyflogres, cyfrifo a chyflwyno ffurflenni TAW a gweinyddu cynlluniau pensiwn.

  • Swyddogaethau busnes a gweinyddol fel darparu gwasanaethau derbynfa, ymdrin â’r post, cynllunio a threfnu cyfarfodydd a monitro systemau gwybodaeth.


At ba ddibenion y gallaf ddefnyddio’r SGC?


Yn syml – mae’r SGC:

  • Yn disgrifio beth mae angen i unigolyn ei wneud, ei wybod a'i ddeall er mwyn cyflawni swydd neu swyddogaeth yn gymwys
  • Yn disgrifio beth yw perfformiad effeithiol yn y gwaith 
  • Yn galluogi busnesau i wella sgiliau eu gweithluoedd, cynyddu cynhyrchedd, datblygu cynlluniau hyfforddi ac i recriwtio a chadw eu pobl orau.

    Chwiliwch Gronfa Ddata’r SGC i gael gwybod rhagor.

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu datblygu ar gyfer cyflogwyr gan gyflogwyr.

Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori yn y dyfodol a dweud eich dweud am yr alwedigaeth neu'r maes diwydiant sy’n gyfarwydd i chi, neu os hoffech ragor o wybodaeth am yr SGC, cysylltwch â NOSMailbox@llyw.cymru

Scott Waddington SA Brains (Saesneg)

Cyflwyniad i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Cyn-hyfforddwr Cymru a'r Llewod Brydeinig (Saesneg)

Rob Jones - gan ddefnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

BBC cymru wales (Saesneg)

Astudiaeth achos cyflogwr SGC