Llesiant

Mae cyflogwyr yng Nghymru wedi cydnabod ers cryn amser yr angen i hybu a chefnogi iechyd a llesiant eu gweithwyr, gan cynnwys cadw cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a dilyn ffordd iach o fyw.

Mae manteision mynd i’r afael â llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol gweithwyr yn cynnwys:

  • llai o salwch ac absenoldeb
  • cynyddu cynhyrchiant
  • ansawdd y gwaith yn gwella
  • gwell ymgysylltiad ar ran staff
  • llai o drosiant ymhlith staff

Mae gweithwyr sy’n cael eu cefnogi i gymryd rhagor o reolaeth dros eu llesiant eu hunain yn elwa ar y canlynol:

  • teimlo llai o straen
  • mwy o gymhelliant
  • ysbryd yn well
  • mwy o foddhad o'u gwaith
  • mwy ymwybodol o lesiant eu cydweithwyr

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yma yn darparu canllawiau, offer a chymorth ichi fynd ati i sefydlu a datblygu diwylliant llesiant eich busnes, ac i gynnwys gweithwyr yn y drafodaeth ynghylch iechyd yn y gweithle.

Llesiant Cymru: 2020

Y newyddion diweddaraf am y cynnydd sydd wedi’i wneud yng Nghymru tuag at gyflawni’r 7 nod llesiant.


 

Mind Cymru

Mae'r Mynegai Llesiant yn y Gweithle yn galluogi cyflogwyr i ddathlu'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud i hybu llesiant meddyliol staff, ac i gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i wneud hyn yn well eto.

ACAS Iechyd a Llesiant (Saesneg)

Er fod gweithio'n aml yn gwneud daioni i iechyd a llesiant unigolyn, mae ffactorau yn y gweithle sy'n gallu cael effaith ar iechyd a llesiant staff.

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch

Gwybodaeth i fusnesau a chyflogwyr yn ymwneud â gwaith teg ac iechyd a llesiant yn y gweithle.

Cymru Iach ar Waith (CIW)

Gall cyflogwyr fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chanllawiau arfer da i helpu i wella'r ffordd y maent yn rheoli iechyd a lles yn y gweithle.

CIPD Arolwg iechyd a llesiant yn y gwaith (Saesneg)

Y pedwerydd arolwg blynyddol ar bymtheg gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, yn archwilio tueddiadau ac arferion ym meysydd iechyd, llesiant a rheoli absenoldeb yng ngweithleoedd y DU.

TUC Gwaith a llesiant (Saesneg)

Cyngor ynghylch amrywiaeth eang o ddulliau i hybu llesiant.

Nodau llesiant

Bydd nifer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i ddangos cynnydd yng Nghymru o ran mwy nac un o'r Nodau Llesiant.

Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (Saesneg)

Y Nodau Datblygu Cynaliadwy yw'r patrwm ar gyfer creu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb.