Nid oes gan unrhyw un ddyddiad ‘ar ei orau cyn’

Canllawiau i gyflogwyr ar gyflogi a hyfforddi gweithwyr hŷn

Mae gweithlu Cymru yn prysur heneiddio. Erbyn 2022, bydd un o bob tri pherson o oedran gweithio yng Nghymru yn 50 oed neu’n hŷn.

Yn syml, mae pobl hŷn yn hollbwysig i ddyfodol ein heconomi a’n busnesau, ac mae angen i ni herio ein rhagdybiaethau am bobl hŷn a beth allant ei wneud.

Bydd rhai’n synnu o glywed mai’r diffiniad o weithiwr hŷn yw rhywun 50 oed a throsodd.

Mae poblogaeth a gweithlu sy’n heneiddio yn golygu y bydd sicrhau bod gwaith yn fwy cynhwysol i weithwyr hŷn yn dod yn fwyfwy pwysig i weithwyr, cyflogwyr a’r economi.

Cadw pobl, meithrin eu sgiliau gydol eu hoes gwaith a recriwtio gweithwyr hŷn - fuodd y rhain erioed mor bwysig i sicrhau twf a pharhad busnesau.

Nawr yw’r amser i gynllunio ar gyfer gweithlu sy’n heneiddio – nid dim ond i fusnesau mawr, ond rhai bach a chanolig hefyd, sy’n dueddol o gael eu heffeithio fwyaf gan golli sgiliau a chostau recriwtio.

Mae’r holl wybodaeth a geir yma yn seiliedig ar brofiad cyflogwyr sydd wedi gweld manteision masnachol cyflogi gweithlu amlgenhedlaeth.

Rydyn ni wedi cynnwys astudiaethau achos ac ymchwil i ddangos beth all gweithwyr hŷn ei gynnig i fusnesau, a chwalu ambell ragfarn ar sail oedran wrth wneud hynny.

 

Nesaf: Sut y gall gweithwyr hŷn yn helpu fy musnes?

Employer Toolkit: Guidance for Managers of Older Workers
  • Our workforce is getting older and young people joining the labour market will not fill all of the vacancies.
  • By 2022, 1 in 3 people of working age in Wales will be over 50.

 (Source: Welsh Government population projections, 2019)


Sut gall gweithwyr hŷn helpu fy musnes i?

Bydd cadw, hyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn yn sicrhau bod y gweithwyr sydd eu hangen gennych chi wrth i lai o bobl ifanc ymuno â’r farchnad waith.

Chwalu mythau am weithwyr hŷn

Mae nifer o gamsyniadau ynghylch cyflogi gweithwyr hŷn.

Beth alla i ei wneud?

Cyflogwyr mawr a bach fel ei gilydd yn gallu cymryd camau i hyfforddi, cadw a recriwtio gweithwyr hŷn.

5 rheswm da pam y dylai busnesau fuddsoddi mewn gweithwyr hŷn

Oeddech chi’n gwybod? O fewn pum mlynedd bydd 1 o bob 3 person o oedran gweithio yng Nghymru dros eu 50 oed.