Chwalu’r mythau

Mae llawer o gamargraffiadau am gyflogi gweithwyr hŷn, yn ymwneud â chynhyrchiant, uwchsgilio, iechyd a rhwystro cyfleoedd i weithwyr iau.

Mae tystiolaeth gan waith ymchwil a phrofiad busnesau go iawn yn gallu chwalu rhai o’r syniadau hyn a lleddfu pryderon pobl.

 
MYTH: Mae pobl hŷn sy’n parhau mewn gwaith yn dwyn swyddi pobl ifanc.

FFAITH:

Mae gennym brinder pobl ifanc sydd ar gael i lenwi swyddi gweigion yn y genhedlaeth nesaf, felly gweithwyr hŷn yw’r dyfodol.

Hefyd, mae ymchwil yn dangos nad yw mesurau sy’n caniatáu i weithwyr hŷn ymddeol yn gynt er mwyn rhyddhau swyddi i weithwyr iau, yn cael unrhyw effaith gadarnhaol ar gyflogaeth pobl ifanc.¹

Ffynhonnell: ¹ Releasing jobs for the young?’ Institute for Fiscal Studies 2010

MYTH: Dyw gweithwyr hŷn ddim yn gallu gweithio cystal ag aelodau iau o’r tîm.

FFAITH:

Mae ymchwil gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi dangos bod gweithwyr hŷn yn dal i allu cyfrannu ar sail eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Hefyd, mae tystiolaeth yn dangos nad yw perfformiad gwybyddol yn dirywio’n sylweddol tan ar ôl 70 oed gan amlaf, tra bod gweithwyr hŷn yn dal i allu cyfrannu yn ôl eu gallu corfforol, yn enwedig os ydyn nhw’n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

MYTH: Does dim diben cyflogi gweithwyr hŷn gan y byddan nhw’n ymddeol yn fuan, cyn iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau neu gyfrannu at y busnes.

FFAITH:

Yn aml, mae gweithwyr hŷn yn aros yn hirach yn eu swydd na’u cydweithwyr iau.

MYTH: Does gan weithwyr hŷn ddim diddordeb mewn meithrin eu sgiliau na datblygu sgiliau newydd.
FFAITH: Mae llawer o weithwyr hŷn lawn mor awyddus i ddatblygu eu sgiliau â’u cydweithwyr iau. Ond, mae cyflogwyr yn esgeuluso eu hanghenion hyfforddiant yn aml.
MYTH: Bydd gweithwyr hŷn yn absennol yn amlach oherwydd salwch neu anabledd.

FFAITH:

Fel gweithwyr o unrhyw oed, mae gan rai pobl hŷn anabledd neu salwch hirdymor, ond gall dulliau rheoli effeithiol sicrhau eu bod yn effeithiol yn y gwaith - er enghraifft, trwy wneud mân addasiadau ffisegol neu gyflwyno trefniadau gweithio hyblyg.

MYTH: Mae gweithwyr hŷn yn cael trafferth ymdopi â’r dechnoleg ddiweddaraf.

FFAITH:

Fel pob grŵp oedran a sgiliau, bydd hyfforddiant priodol yn pontio’r bwlch sgiliau.

 

Nesaf: Beth alla i ei wneud?