Beth alla i ei wneud?

Mae poblogaeth a gweithlu sy’n heneiddio yn golygu y bydd sicrhau bod gwaith yn fwy cynhwysol i weithwyr hŷn yn fwyfwy pwysig i weithwyr, cyflogwyr a’r economi.  

Er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau demograffig hyn, gall cyflogwyr bach a mawr gymryd camau i hyfforddicadw a recriwtio gweithwyr hŷn.


Mae proffilio oedran yn caniatáu i chi edrych yn fanylach ar oedran eich gweithlu nawr ac yn y dyfodol.

Gall eich helpu i ragweld tueddiadau a nodi’r meysydd lle mae gennych chi weithwyr hŷn a lle gallech fod angen trafod dewisiadau ymddeol a gweithio hyblyg.

Mae ymchwil gan yr UK Working Longer Group yn dangos fod rheolwyr yn gyndyn yn aml i drafod ymddeoliad gyda staff, ond mae trafodaeth adeiladol ac agored yn hanfodol er mwyn helpu i gynllunio gweithlu’r dyfodol.

Efallai y bydd angen i sefydliadau mawr ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer cadw gweithwyr hŷn. O ran busnesau bach a chanolig, gallai’r ateb fod mor syml ag ystyried un neu ddau o unigolion hŷn sy’n gwneud cyfraniad hollbwysig i’r busnes.

Gall ystyried a thrafod opsiynau gwaith ac ymddeoliad mewn da bryd fod o gymorth i staff a chyflogwyr a dylech broffilio oedran yn rheolaidd er mwyn helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Beth alla i ei wneud?

  • Ystyriwch beth yw proffil oedran eich gweithlu
  • Oes gan rai o’ch gweithwyr hŷn y wybodaeth, y profiad neu’r arbenigedd nad ydynt ar gael yn unrhyw ran arall o’r sefydliad?
  • Oes unrhyw gamau y gallech eu cymryd i gadw sgiliau’ch gweithwyr hŷn yn y busnes neu roi amser i chi gynllunio olyniaeth? E.e. trefniadau gweithio hyblyg neu ymddeol yn raddol?
  • All gweithiwr hŷn gyfrannu mwy neu’n well mewn rhan arall o’r busnes lle byddai ei sgiliau’n gaffaeliad? Fyddai hyfforddiant yn galluogi hynny?
  • Ydy rheolwyr llinell yn ddigon cymwys i ymdrin â materion cysylltiedig ag oedran?
  • Oes rhagfarn ar sail oedran yn eich gweithle? Ystyriwch agweddau pobl at weithwyr hŷn.
  • Ydych chi’n ymwybodol o’r pryderon neu rwystrau a all fod yn poeni gweithwyr hŷn? Trwy siarad gyda nhw am eu bywyd gwaith, efallai y dewch ar draws problemau y gellir eu datrys yn hawdd.

Mae llawer o adnoddau gwahanol ar gael gan sefydliadau allanol i’ch helpu. Ceir rhywfaint o enghreifftiau Saesneg isod, ond nodwch eu bod nhw’n hollol ar wahân i Lywodraeth Cymru.



Business in the Community – Y MOT Canol Oes: Helpu gweithwyr i lywio ganol oes (Saesneg)

Offer, Templedi ac Adnoddau ACAS

 

Mae meithrin sgiliau’ch staff yn gallu arwain at fwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella ysbryd a ffyddlondeb.

Mae hyn yr un mor berthnasol i weithwyr hŷn ag ydyw i’r iau, ac eto, mae hyfforddiant yn gorffen erbyn iddynt gyrraedd 50 oed fel arfer.

Gyda phrinder pobl ifanc yn y farchnad recriwtio, mae’n allweddol bod busnesau’n parhau i uwchsgilio gweithwyr hŷn na allant fforddio eu colli.

Beth alla i ei wneud?

  • Sicrhewch fod eich cynlluniau datblygu sgiliau yn cynnwys pawb o bob oed yn eich gweithlu
  • Anogwch ddiwylliant o ddysgu a datblygu parhaus i bawb
  • Darparwch hyfforddiant priodol i reolwyr llinell ar faterion cysylltiedig ag oedran, fel y gallant ymdrin â gweithwyr sy’n heneiddio’n hyderus.

Nid oes gennym oedran ymddeol awtomatig mwyach, ac eto mae mwy a mwy o bobl yn gadael gwaith cyn eu bod nhw – neu’r busnes – eisiau iddynt wneud hynny gan fynd â’u sgiliau a’u profiad gyda nhw.

Efallai mai salwch, cyfrifoldebau gofal, diffyg datblygiad neu amrywiaeth yw’r rheswm am hyn, neu eu bod eisiau cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.

Beth alla i ei wneud?

  • Holwch pam mae’ch staff yn gadael cyn pryd, ac ewch ati i gadw eu harbenigedd am gyfnod hwy
  • Sicrhewch fod rheolwyr llinell wedi’u hyfforddi i ymdrin â datblygiad gyrfa ganol oes a materion cysylltiedig ag oed  
  • Cynhaliwch drafodaethau â gweithwyr i drafod materion gwaith ac ymddeoliad ac ystyried a allai dull gwahanol eu helpu i weithio’n hirach
  • Amrywiwch rolau trwy hyfforddi – mae sgiliau newydd nid yn unig yn gwella cynhyrchiant a ffyddlondeb, ond mae’r amrywiaeth a ddaw yn sgil hynny yn gallu helpu pobl i weithio’n hwy.
  • Cyflwynwch y syniad o fentora (ffurfiol ac anffurfiol) - mae mentora gweithwyr eraill yn ychwanegu diddordeb ac ymdeimlad o hunanwerth, yn ogystal â sicrhau bod arbenigedd a gwybodaeth yn cael eu rhannu â’ch gweithlu
  • Anogwch weithwyr hŷn i ddefnyddio’r dechnoleg newydd yn hyderus, trwy ddarparu hyfforddiant
  • Gwellwch amgylchedd gwaith ffisegol, efallai cyfyngu ar waith corfforol, amrywio tasgau a chyflwyno mân addasiadau i’r gweithle
  • Cynigwch drefniadau gweithio hyblyg i staff ar bob cyfnod o fywyd, naill ai ar sail barhaus neu fel rhan o ymddeoliad graddol - er enghraifft, oriau rhannu amser; rhannu swydd; amser hyblyg; wythnos waith cywasgedig; ymuno â chronfa o weithwyr wedi ymddeol ar gyfer cyfnodau prysurach; absenoldeb ychwanegol di-dâl neu seibiant gyrfa
  • Hybwch ffordd iach o fyw i’r holl weithwyr, gan ddangos bod eu llesiant yn bwysig i chi.

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cymorth ychwanegol, yn ogystal â rhaglenni llesiant a chyngor cynllunio ariannol.

Ond beth bynnag mae cyflogwyr yn ei gynnig, maen nhw i gyd yn dweud bod eu busnes wedi elwa ar gadw gweithlu hŷn.

Gall marchnad recriwtio sy’n heneiddio cynnig profiad, dawn a gwybodaeth i’r busnes - ac er mwyn parhau’n gystadleuol, bydd angen gwneud yn siŵr eu bod yn apelio at weithwyr hŷn yn hytrach na gwneud iddynt deimlo’n ddigroeso.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran, wrth gwrs, yn anghyfreithlon heblaw am ambell achos eithriadol. Does gan y rhan fwyaf ohonom ddim bwriad gwahaniaethu, ond mae’n werth bwrw golwg arall ar eich arferion recriwtio safonol.

Beth alla i ei wneud?

  • Ystyriwch a yw’r iaith yn oedran-niwtral
  • A fydd yr hysbysebion yn ymddangos mewn mannau lle bydd recriwtiaid hŷn yn ogystal â’r rhai ifanc yn eu gweld nhw (yn enwedig gyda’r tueddiad i recriwtio ar-lein)?
  • A allwch chi hyrwyddo’ch busnes fel cyflogwr oedran-gyfeillgar? – e.e. “rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob oed”
  • A yw’r ymgeiswyr yn cael eu gwerthuso yn ôl eu sgiliau a’u profiad, waeth beth fo’u hoedran?
  • A ydych chi’n pwysleisio holl elfennau’r swydd a allai apelio ar bobl hŷn – e.e. trefniadau gweithio hyblyg?

Challenging perceptions
  • 88% of employers believe older workers can bring skills and benefits - but people aged 50+ are least likely to be recruited once out of work
  • Research and employer case studies show that most older workers:-
  • are just as productive as their younger counterparts;
  • are just as successful in training;
  • take less short-term sickness absence; 
  • tend to offset any loss of speed with better judgement based on years of experience
  • Over 50s are as likely to commit to a new employer and stay in their joblonger than younger people - even where they have previously had a more senior position or a higher wage

* source: UK Government