5 rheswm da pam y dylai busnesau fuddsoddi mewn gweithwyr hŷn

Oeddech chi’n gwybod? Erbyn 2022, bydd 1 o bob 3 person o oedran gweithio yng Nghymru dros eu 50 oed.


Gyda’n poblogaeth yn byw’n hirach ac yn cynnal iechyd da y tu hwnt i oedran pensiwn, does dim syndod bod mwy na hanner y gweithwyr presennol sydd dros 50 oed yn bwriadu gweithio y tu hwnt i’w pen-blwydd yn 65 oed.

Er gwaethaf y canfyddiadau hyn, mae cyflogwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar sut i ddenu a recriwtio’r gweithwyr ifanc gorau, gan anwybyddu’r posibiliadau a photensial eu haelodau staff hŷn. Yn wir, gweithwyr dros 50 oed yw’r lleiaf tebygol o gael eu recriwtio os ydyn nhw allan o waith – mae hwn yn ystadegyn rhyfedd o ystyried y profiad y gall y demograffig hwn ei gyfrannu at gyflogwyr.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran wrth recriwtio yn anghyfreithlon, ond nid delfrydau cydraddoldeb yw hanfod recriwtio gweithwyr hŷn – mae’n gwneud synnwyr busnes da.

Gall cwmnïau nad ydyn nhw’n buddsoddi mewn gweithlu o bob oedran gael eu hunain mewn sefyllfa cyn bo hir lle nad oes ganddyn nhw ddigon o weithwyr i gynnal eu modelau busnes presennol a’u cynlluniau twf.

Mae’r syniad y gall busnesau ailgyflenwi eu gweithluoedd gyda phobl ifanc yn unig yn anymarferol ni fydd digon o bobl ifanc ar gael i lenwi’r swyddi gwag i gyd. Mae gweithwyr hŷn yn dod yn fwyfwy pwysig i i fusnesau sydd am barhau i ffynnu yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod.

Dal i fod yn ansicr ydy gweithwyr hŷn mor werthfawr â gweithwyr iau? Dyma bum ffaith sy’n dangos pam mae recriwtio, hyfforddi a chadw gweithwyr cyflogedig hŷn yn syniad busnes craff.

  1. Mae gweithwyr hŷn yn cyfrannu ystod ehangach o sgiliau a phrofiad at fusnes

    Ni ddylid anwybyddu gwerth profiad wrth recriwtio ar gyfer busnes sy’n tyfu. Er y gall cymwysterau megis cymwysterau Safon Uwch a graddau prifysgol ddangos lefel uchel o ddawn, dydy nhw ddim mwy gwerthfawr na’r ystod eang o sgiliau busnes emosiynol ac ymarferol sydd wedi’u hennill trwy dreulio blynyddoedd mewn amgylchedd gwaith go iawn.

    Gyda phrofiad, daw’r gallu i wneud y penderfyniadau cywir mewn sefyllfaoedd anodd. Mae astudiaethau’n dangos bod staff hŷn yn gwneud penderfyniadau gwell na gweithwyr iau, a bod y penderfyniadau hynny’n seiliedig ar flynyddoedd o brofiad ymarferol a enillwyd trwy weithio mewn senarios tebyg.
  2. Mae busnesau sydd â gweithwyr hŷn yn tueddu i wario llai o arian ar recriwtio

    Mae rhai cyflogwyr yn credu bod cyflogi gweithwyr hŷn yn ymarfer costus am eu bod yn fwy tebygol o adael i ymddeol. Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir: ar gyfartaledd, mae gweithwyr dros eu 50 oed yn aros yn eu swyddi am gyfnodau hwy na gweithwyr iau, sy’n fwy tebygol o gael eu denu gan gyfleoedd mewn mannau eraill.

    Mae hyd yn oed gweithwyr hŷn sydd wedi bod mewn swyddi uwch neu ar gyflogau uwch na’u swydd bresennol yn aros yn ffyddlon i’w cyflogwyr. Enghraifft dda o hyn yw cyflwynydd "The Great British Bake Off", Mary Berry – mae’r ffaith bod y cyflwynydd 81 oed wedi gwrthod symud i Channel 4 pan brynodd y sianel y rhaglen boblogaidd yn golygu bod y BBC wedi cadw un o’i phersonoliaethau mwyaf poblogaidd – a hynny am lai o arian nag y byddai Channel 4 wedi bod yn barod i’w gynnig, yn ôl pob tebyg.
  3. Mae gweithwyr hŷn yn cymryd llai o ddiwrnodau salwch tymor byr

    Camsyniad arall am weithwyr hŷn yw eu bod nhw’n costio mwy o arian i’w cyflogwyr gan eu bod nhw’n cymryd mwy o absenoldeb salwch nag aelodau staff iau.

    Mewn gwirionedd, mae gweithwyr cyflogedig hŷn yn llai tebygol ar y cyfan o gymryd absenoldeb salwch na gweithwyr yn eu hugeiniau.
  4. Gall gweithwyr hŷn helpu i fentora a throsglwyddo sgiliau i aelodau staff iau

    Trwy gyflogi gweithlu o bob oedran, gall busnesau annog gweithwyr hŷn i weithredu fel mentoriaid. Trwy weithio’n agos gydag aelodau staff hŷn sydd â phrofiad o ymdrin â phob math o senarios gwaith, gall aelodau staff iau ennill sgiliau amhrisiadwy heb orfod dilyn rhaglenni hyfforddi costus.

    Mae’r canwr enwog o Gymru, Tom Jones, yn enghraifft dda o fentoriaeth ar waith. Ar ôl mwynhau chwe degawd llwyddiannus ym myd cerddoriaeth, mae’r canwr o Bontypridd bellach yn defnyddio ei ddoniau i hyfforddi a mentora cantorion ifanc ar raglen deledu The Voice ar ITV.
  5. Gall cael gweithwyr hŷn yn eich tîm apelio at boblogaeth sy’n heneiddio

Nid dim ond y gweithwyr yn eich cwmni sy’n heneiddio. Gyda disgwyliad oes yn codi, byddwch hefyd yn ymdrin â chwsmeriaid hŷn wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.

Mae mwy o ddealltwriaeth rhwng staff a chwsmeriaid yn rhoi mantais gystadleuol i’ch busnes. Buddsoddwch mewn gweithlu o bob oedran, a byddwch chi mewn sefyllfa dda i ragweld a diwallu anghenion eich cleientiaid yn y tymor hir.