Cyflogadwyedd Troseddwyr
Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Gwasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi yng Nghymru i ddarparu addysg o ansawdd uchel i garcharorion sy’n rhoi’r siawns orau iddynt lwyddo i fod yn rhan o gymdeithas ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Gall eich busnes elwa ar y sgiliau y mae’r unigolion hyn wedi’u meithrin yn y carchar ac yn ystod eu bywyd blaenorol. Os oes gennych anghenion penodol o ran sgiliau, siaradwch â’ch Cynghorydd Busnes Cymru ynglŷn â’r potensial i ddatblygu’r sylfaen sgiliau o fewn poblogaeth y carchardai.
Ydych chi erioed wedi ystyried cyflogi cyn-droseddwr?
Dengys ystadegau presennol mai cyfran fechan o garcharorion sy’n cael gwaith o fewn blwyddyn i’w rhyddhau, er eu bod yn gymwys ac yn meddu’r sgiliau cywir i wneud llawer o’r swyddi sy’n wag ac y mae cyflogwyr yn cael trafferth i’w llenwi. Er hynny, mae llawer o gyflogwyr yn dechrau sylweddoli bod manteision o gyflogi cyn-droseddwr yn eu cwmni.
Drwy gyflogi cyn-droseddwr, efallai bod modd i chi leihau’ch costau recriwtio, cynyddu eich cyfradd cadw staff, lleihau absenoldebau staff, datrys prinder sgiliau ac, yn anad dim, mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth.
Drwy ymuno â chwmnïau a sefydliadau arloesol fel Timpsons a Halfords a chyflogi cyn-droseddwyr, byddwch chi a’ch busnes yn annog a chynorthwyo eraill i wneud yr un peth.
Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder doreth o wybodaeth i fusnesau ynghylch y manteision o gyflogi cyn-droseddwyr.
Ceir rhagor o wybodaeth a chymorth i gwmnïau sy’n ystyried cyflogi cyn-droseddwr drwy Busnes yn y Gymuned.
Os hoffech chi elwa ar y manteision sy’n dod yn sgil cyflogi cyn-droseddwr, cysylltwch â Rhwydwaith Dyfodol Newydd Cymru (Wales New Futures Network).
I gael gwybod mwy
Os hoffech wybod mwy am y ffordd y gallwn ni eich helpu i recriwtio ymgeiswyr gwych i ddatblygu eich busnes, cysylltwch â New Futures Network neu e-bostiwch offenderlearningpolicy@llyw.cymru.