Cymwysterau a Dysgu

Mae system o gymwysterau sy'n seiliedig ar gredydau, ac sydd wedi'i llunio gyda chymorth y cyflogwyr eu hunain, yn ei gwneud hi'n haws deall yr hyn y mae'r dysgwr wedi'i gyflawni a'r hyn y gall wneud.

Mae hyn yn golygu bod eich gweithwyr wedi'u hyfforddi'n llawn ar gyfer y gweithle modern – a'ch bod yn gallu denu a chadw'r bobl orau trwy gynnig cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru

Gall rhywun ddysgu unrhyw le – yn y gweithle, yn y gymuned, trwy wirfoddoli, mewn ysgolion a cholegau. Gall fod yn anodd i gyflogwyr wybod a oes gan unigolyn y sgiliau cywir ar gyfer y swydd.

Mae’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn cymharu ac achredu lefelau gwahanol o gyflawniad ar draws yr holl fathau o addysg a hyfforddiant.


Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Mae'r safonau hyn yn seiliedig ar egwyddor syml iawn – y cyflogwr sy'n gwybod orau.

Maent yn disgrifio'r hyn y mae angen i unigolyn ei wneud, ei wybod a'i ddeall er mwyn cyflawni swydd neu rôl benodol. Felly, nod y safonau yw sicrhau perfformiad effeithiol yn y gwaith.

Maent yn galluogi cyflogwyr i wella sgiliau eu gweithlu, cynyddu cynhyrchiant, datblygu cynlluniau hyfforddi, a recriwtio a chadw'r bobl orau.

Cyflogwyr sy’n datblygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer cyflogwyr trwy'r partner cyflenwi dynodedig.

Cyrff Cynrychiolwyr y Sector

Sefydliadau annibynnol, dan arweiniad cyflogwyr, i’r Deyrnas Unedig gyfan yw cyrff cynrychiadol y sector. Eu nod yw datblygu safonau sgiliau o ansawdd uchel ar y cyd â chyflogwyr sy’n cefnogi cynhyrchiant a hybu perfformiad. Gallant hefyd roi cyngor am gymwysterau o fewn y sector.

Cymwysterau a Dysgu

Mae'n bwysig bod gan gyflogwyr strategaeth tuag at sicrhau bod gan eu gweithlu gyfleoedd i ennill cymwysterau cydnabyddedig ac ystyrlon.